skip navigation
Rydych chi yma: Hafan > Aelodau > Dewisiadau Ymddeol > Ymddeoliad ar sail iechyd

Ymddeoliad ar sail iechyd


Os oes gennych chi o leiaf 3 mis o aelodaeth, neu os ydych chi wedi trosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol i’r cynllun, gallech fod yn gymwys i dderbyn eich buddion heb eu cwtogi yn gynnar ar sail salwch, beth bynnag fo’ch oedran. 

Er mwyn ymddeol ar sail salwch mae’n rhaid i gynghorydd iechyd galwedigaethol annibynnol cymeradwy (na fu’n ymwneud â’ch achos chi’n flaenorol) ardystio eich bod yn analluog i barhau yn eich swydd neu unrhyw swydd gymharol gyda’ch cyflogwr. 

Gellid cynyddu eich aelodaeth yn y cynllun i wneud iawn am y ffaith eich bod chi wedi gorfod ymddeol ar sail salwch i chi droi’n 65 oed.   

Seilir ymddeoliadau ar sail salwch ar system haenau lle mae’r ychwanegiad a ddyfernir yn dibynnu ar ba mor debygol ydych chi o ymgymryd â gwaith cyflogedig cyn troi’n 65 oed. 

Diffinnir gwaith cyflogedig fel gweithio isafswm o 30 awr yr wythnos am gyfnod heb fod yn llai na 12 mis. 

Rhoir eglurhad o’r 3 haen isod:

Haen 1: Os yw Meddyg y Gronfa Bensiynau yn ardystio eich bod chi’n analluog i gyflawni eich dyletswyddau yn barhaol, ac nad oes rhagolygon rhesymol y byddwch yn ymgymryd â gwaith cyflogedig yn unman cyn i chi droi’n 65 oed, bydd y cynnydd a ddyfernir yn 100% o’ch darpar aelodaeth o ddyddiad terfynu eich cyflogaeth i 65 oed.

Enghraifft: Mae Jim yn gweithio oriau amser llawn ac mae Meddyg y Gronfa Bensiynau wedi dyfarnu statws gwaeledd iechyd haen 1 iddo.  Mae’n 45 oed ac mae ganddo 25 o flynyddoedd o aelodaeth yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.  Bydd ei fuddion pensiwn wedi’u seilio ar:  

  • Y 25 mlynedd y mae wedi’u cronni, ac
  • Yr 20 mlynedd o aelodaeth y gallai fod wedi’u cronni rhwng 45 a 65 oed. 

Felly bydd ei bensiwn salwch wedi’i seilio ar 45 mlynedd o aelodaeth yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. 

Haen 2: Os yw Meddyg y Gronfa Bensiynau yn ardystio eich bod chi’n annhebygol o ymgymryd â gwaith cyflogedig yn unman cyn pen 3 tair blynedd ond ei bod yn debygol y byddwch yn ymgymryd â gwaith cyn y byddwch yn 65 oed, bydd y cynnydd yn 25% o’r darpar aelodaeth o ddyddiad terfynu eich cyflogaeth i 65 oed. 

Enghraifft: Mae Natalie yn gweithio oriau amser llawn ac mae Meddyg y Gronfa Bensiynau wedi dyfarnu statws salwch haen 2 iddi.  Mae hi’n 45 oed ac mae ganddi 15 mlynedd o aelodaeth yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.  Bydd ei buddion pensiwn wedi’u seilio ar: 

  • Y 15 mlynedd y mae hi wedi’u cronni, a
  • 5 mlynedd o aelodaeth – 25% o’r aelodaeth y gallai hi fod wedi’i gronni rhwng 45 a 65 oed.  

Felly bydd ei phensiwn salwch wedi’i seilio ar 20 mlynedd o aelodaeth yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. 

Os buoch chi’n gweithio’n rhan amser yn ystod eich aelodaeth yn y cynllun bydd y cynnydd i’ch cyfnod gwasanaeth (os byddwch yn derbyn cynnydd) ar sail pro rata i adlewyrchu eich oriau rhan amser. 

Haen 3: Os yw Meddyg y Gronfa Bensiynau yn ardystio eich bod chi’n debygol o ymgymryd â gwaith cyflogedig cyn pen 3 blynedd, bydd eich buddion sylfaenol yn cael eu rhyddhau heb eu cynyddu a byddant yn daladwy nes y cewch waith cyflogedig neu am uchafswm o dair blynedd.  Bydd eich achos yn cael ei adolygu gan Feddyg y Gronfa ar ôl 18 mis os nad ydych chi wedi ymgymryd â gwaith cyflogedig, er mwyn asesu a yw eich cyflwr wedi gwella, dirywio neu wedi aros yr un fath.  Os yw eich cyflwr wedi dirywio yna efallai y byddwch chi’n gymwys am gynnydd haen 2.  Fodd bynnag, os bydd eich cyflwr wedi gwella bydd y taliadau pensiwn yn dod i ben ar unwaith.  Os na fu unrhyw newid yn eich cyflwr bydd y pensiwn yn cael ei dalu am 18 mis arall. 

Mae’n bwysig iawn eich bod chi’n parhau I gysylltu â’ch cyn-gyflogwr yn ystod y cyfnod tair blynedd hwn er mwyn sicrhau bod y pensiwn yn cael ei dalu am y cyfnod cywir. 

Pan fydd eich buddion 3 haen yn dod i ben (naill ai ar ôl 18 mis neu ar ôl 3 blynedd), caiff eich buddion pensiwn eu gohirio yng Nghronfa Bensiynau Clwyd. Pan fyddwch yn 60 oed, gall eich taliadau pensiwn ailddechrau (er  mae’n bosibl i’r taliadau fod yn llai oherwydd eich bod yn eu cael cyn i chi droi’n 65 oed, sef yr oedran ymddeol arferol).

Gwybodaeth yn yr adran hon
Os oes gennych chi gyfanswm o 3 mis o aelodaeth o leiaf, neu eich bod chi wedi trosglwyddo pensiwn i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol sy’n cyfateb i hyn, cewch adael eich cyflogaeth yn wirfoddol a derbyn eich buddion pensiwn o unrhyw adeg o 60 oed ymlaen.
Os gofynnir i chi ymddeol neu os ydych chi’n cytuno i ymddeol ar sail effeithlonrwydd neu ddileu swydd, bydd gennych chi’r hawl i dderbyn taliad buddion heb eu cwtogi ar unwaith, cyn belled ag eich bod chi’n:
Os ydych chi’n 55 oed neu’n hŷn mae’n bosibl i chi barhau i weithio a derbyn y buddion pensiwn rydych chi wedi’u cronni eisoes.
Os ydych chi’n parhau i weithio ar ôl i chi gyrraedd 65 oed, cewch barhau i dalu cyfraniadau pensiwn a chronni rhagor o aelodaeth yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
Os ydych chi’n ymddeol ar eich pen-blwydd yn 65 oed bydd eich pensiwn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn cael ei dalu i chi yn awtomatig.
Ar ôl 55 oed bydd cynnydd yn eich pensiwn bob blwyddyn yn unol â’r Mynegai Prisiau Manwerthu
Roedd rhaid cael gwared o’r Rheol 85 mlynedd o reoliadau pensiwn am ei bod yn groes i ddeddfwriaeth gwahaniaethu ar sail oedran.
Diweddarwyd: 12/2/10 3:38 PM
Chwilio
Cronfa Bensiynau Clwyd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NA Ymwadiad