skip navigation
Rydych chi yma: Hafan > Aelodau > Dewisiadau Ymddeol > Ymddeoliad Cynnar

Ymddeoliad Cynnar


Os oes gennych chi gyfanswm o 3 mis o aelodaeth o leiaf, neu eich bod chi wedi trosglwyddo pensiwn i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol sy’n cyfateb i hyn, cewch adael eich cyflogaeth yn wirfoddol a derbyn eich buddion pensiwn o unrhyw adeg o 60 oed ymlaen. 

Cewch ddewis ymddeol a derbyn eich buddion pensiwn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol rhwng 55 a 59 oed hefyd, ond dim ond os yw eich cyflogwr yn rhoi caniatâd.  

Dylech fod yn ymwybodol, os ydych chi’n ymddeol cyn bod yn 65 oed, bydd peth neu’r cyfan o’ch buddion pensiwn wedi’u cwtogi onibai eich bod chi’n aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol cyn 1 Hydref 2006 a’ch bod chi’n gymwys i gael eich diogelu dan y Rheol 85 mlynedd.

Os gwnaethoch chi ymuno â’r cynllun ar neu ar ôl 1 Hydref 2006 BYDD cwtogiad i’ch pensiwn os ydych chi’n ei gymryd cyn bod yn 65 oed. 

Gwybodaeth yn yr adran hon
Os gofynnir i chi ymddeol neu os ydych chi’n cytuno i ymddeol ar sail effeithlonrwydd neu ddileu swydd, bydd gennych chi’r hawl i dderbyn taliad buddion heb eu cwtogi ar unwaith, cyn belled ag eich bod chi’n:
Os ydych chi’n 55 oed neu’n hŷn mae’n bosibl i chi barhau i weithio a derbyn y buddion pensiwn rydych chi wedi’u cronni eisoes.
Os oes gennych chi o leiaf 3 mis o aelodaeth, neu os ydych chi wedi trosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol i’r cynllun, gallech fod yn gymwys i dderbyn eich buddion heb eu cwtogi yn gynnar ar sail gwaeledd iechyd, beth bynnag fo eich oedran.
Os ydych chi’n parhau i weithio ar ôl i chi gyrraedd 65 oed, cewch barhau i dalu cyfraniadau pensiwn a chronni rhagor o aelodaeth yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
Os ydych chi’n ymddeol ar eich pen-blwydd yn 65 oed bydd eich pensiwn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn cael ei dalu i chi yn awtomatig.
Ar ôl 55 oed bydd cynnydd yn eich pensiwn bob blwyddyn yn unol â’r Mynegai Prisiau Manwerthu
Roedd rhaid cael gwared o’r Rheol 85 mlynedd o reoliadau pensiwn am ei bod yn groes i ddeddfwriaeth gwahaniaethu ar sail oedran.
Diweddarwyd: 6/24/10 3:07 PM
Chwilio
Cronfa Bensiynau Clwyd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NA Ymwadiad