skip navigation
Rydych chi yma: Hafan  > Aelodau > Trosglwyddo Pensiwn

Trosglwyddo Pensiwn


Pan rydych chi’n dod yn aelod o Gronfa Bensiynau Clwyd rydych chi’n cael y cyfle i drosglwyddo eich hawliau pensiwn blaenorol i’r cynllun hwn yn ystod y 12 mis cyntaf o fod yn aelod.  Serch hynny, mae gan eich cyflogwr ddisgresiwn i ymestyn y cyfnod 12 mis yma.  Cewch drosglwyddo pensiynau blaenorol yn cynnwys:

  • Cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol blaenorol
  • cynllun pensiwn cyflogwr blaenorol
  • cynllun pensiwn hunangyflogedig
  • polisi prynu’n allanol
  • cynllun pensiwn personol
  • cynllun pensiwn rhanddeiliad
  • cynllun Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol ar wahân

Mae’r broses drosglwyddo yn dechrau wedi i chi lenwi Ffurflen Awdurdodi Trosglwyddo (Agor ffenestr newydd 177KB) a’i dychwelyd i Gronfa Bensiynau Clwyd.  Mae hyn yn caniatáu i Gronfa Bensiynau Clwyd siarad gyda’ch darparydd pensiwn blaenorol ar eich rhan. 

Bydd eich darparydd pensiwn blaenorol yn rhoi prisiad trosglwyddo i Gronfa Bensiynau Clwyd ac yna mae hyn yn cael ei drosi yn fuddion Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol i ddarparu dyfynbris i chi.  Gwnawn eich hysbysu’n ysgrifenedig am amcangyfrif gwerth y pensiwn petai’n cael ei drosglwyddo, a fydd yn caniatáu i chi benderfynu p’un ai i fwrw ymlaen ai peidio.  Nid oes rheidrwydd i chi barhau gyda’r trosglwyddiad os nad ydych chi’n teimlo mai dyna sydd orau i chi. 

Noder y gall trosglwyddo pensiwn fod yn broses faith. 

Diweddarwyd: 6/15/10 9:29 AM
Chwilio
Cronfa Bensiynau Clwyd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NA Ymwadiad