skip navigation
Rydych chi yma: Hafan  > Aelodau > Dewisiadau Ymddeol

Dewisiadau Ymddeol


Yr oedran ymddeol arferol o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yw 65 oed, er bod darpariaethau sy’n caniatáu i chi ymddeol ynghynt neu’n hwyrach.  Mae gwahanol fathau o ymddeoliad y gallech chi fod yn gymwys iddynt, yn dibynnu ar eich oedran.  Mae’n rhaid i chi fod yn aelod o’r cynllun am o leiaf 3 mis i fod yn gymwys i dderbyn pensiwn ar adeg ymddeol. 

 

Gwybodaeth yn yr adran hon
Os oes gennych chi gyfanswm o 3 mis o aelodaeth o leiaf, neu eich bod chi wedi trosglwyddo pensiwn i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol sy’n cyfateb i hyn, cewch adael eich cyflogaeth yn wirfoddol a derbyn eich buddion pensiwn o unrhyw adeg o 60 oed ymlaen.
Os gofynnir i chi ymddeol neu os ydych chi’n cytuno i ymddeol ar sail effeithlonrwydd neu ddileu swydd, bydd gennych chi’r hawl i dderbyn taliad buddion heb eu cwtogi ar unwaith, cyn belled ag eich bod chi’n:
Os ydych chi’n 55 oed neu’n hŷn mae’n bosibl i chi barhau i weithio a derbyn y buddion pensiwn rydych chi wedi’u cronni eisoes.
Os oes gennych chi o leiaf 3 mis o aelodaeth, neu os ydych chi wedi trosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol i’r cynllun, gallech fod yn gymwys i dderbyn eich buddion heb eu cwtogi yn gynnar ar sail gwaeledd iechyd, beth bynnag fo eich oedran.
Os ydych chi’n parhau i weithio ar ôl i chi gyrraedd 65 oed, cewch barhau i dalu cyfraniadau pensiwn a chronni rhagor o aelodaeth yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
Os ydych chi’n ymddeol ar eich pen-blwydd yn 65 oed bydd eich pensiwn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn cael ei dalu i chi yn awtomatig.
Ar ôl 55 oed bydd cynnydd yn eich pensiwn bob blwyddyn yn unol â’r Mynegai Prisiau Manwerthu
Roedd rhaid cael gwared o’r Rheol 85 mlynedd o reoliadau pensiwn am ei bod yn groes i ddeddfwriaeth gwahaniaethu ar sail oedran.
Diweddarwyd: 7/15/10 12:30 PM
Chwilio
Cronfa Bensiynau Clwyd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NA Ymwadiad