- Rhybuddion Newyddion
- Cymhwysedd
- Buddion y Cynllun
- Cyfraniadau Pensiwn
- Cyflogaethau Llusog
- Trosglwyddo Pensiynau
- Cyfraniadau Ychwanegol
- Absenoldeb o'r Gwaith
- Gadael y CPLIL cyn ymddeol
- Dewisiadau Ymddeol
- Lwfans Blynyddol
- Trosi Pensiwn
- Marwolaeth mewn Gwasanaeth
- Rhannu Pensiwn yn dilyn Ysgariad neu Ddiddymiad Partneriaeth Sifil
- Cyfrifo Pensiwn
- Datganiad Pensiwn Blynyddol
- Llyfrynnau Pensiynau
- Ffurflenni Pensiwn
- Cyflwyniadau a galw heibio
- Apelio
- Cwestiynau Cyffredin
- Cysylltau Defnyddiol
- Cysylltu gyda ni
Trosglwyddo Pensiwn
Pan rydych chi’n dod yn aelod o Gronfa Bensiynau Clwyd rydych chi’n cael y cyfle i drosglwyddo eich hawliau pensiwn blaenorol i’r cynllun hwn yn ystod y 12 mis cyntaf o fod yn aelod. Serch hynny, mae gan eich cyflogwr ddisgresiwn i ymestyn y cyfnod 12 mis yma. Cewch drosglwyddo pensiynau blaenorol yn cynnwys:
- Cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol blaenorol
- cynllun pensiwn cyflogwr blaenorol
- cynllun pensiwn hunangyflogedig
- polisi prynu’n allanol
- cynllun pensiwn personol
- cynllun pensiwn rhanddeiliad
- cynllun Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol ar wahân
Mae’r broses drosglwyddo yn dechrau wedi i chi lenwi Ffurflen Awdurdodi Trosglwyddo (Agor ffenestr newydd 177KB) a’i dychwelyd i Gronfa Bensiynau Clwyd. Mae hyn yn caniatáu i Gronfa Bensiynau Clwyd siarad gyda’ch darparydd pensiwn blaenorol ar eich rhan.
Bydd eich darparydd pensiwn blaenorol yn rhoi prisiad trosglwyddo i Gronfa Bensiynau Clwyd ac yna mae hyn yn cael ei drosi yn fuddion Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol i ddarparu dyfynbris i chi. Gwnawn eich hysbysu’n ysgrifenedig am amcangyfrif gwerth y pensiwn petai’n cael ei drosglwyddo, a fydd yn caniatáu i chi benderfynu p’un ai i fwrw ymlaen ai peidio. Nid oes rheidrwydd i chi barhau gyda’r trosglwyddiad os nad ydych chi’n teimlo mai dyna sydd orau i chi.
Noder y gall trosglwyddo pensiwn fod yn broses faith.


