skip navigation
Rydych chi yma: Hafan  > Aelodau > Cyflogaethau Lluosog

Cyflogaethau Lluosog


Os ydych chi’n talu cyfraniadau i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol o fwy nag un swydd ar yr un pryd, bydd gennych chi gofnod pensiwn ar wahân ar gyfer pob swydd er mwyn sicrhau y cedwir y wybodaeth gywir. 

Bydd y gyfradd cyfraniadau rydych chi’n ei thalu yn dibynnu ar gyflog cyfatebol i amser llawn pob swydd unigol yn hytrach na chyfartaledd o’ch cyfanswm cyflog hafal i amser llawn. 

Er enghraifft: Mae gan Jenny ddwy swydd.  Cyflog cyfatebol i amser llawn y swydd gyntaf yw £14,500 a chyflog cyfatebol i amser llawn yr ail swydd yw £16,000.  Felly bydd Jenny yn talu 5.8% ar y swydd cyfatebol i £14,500 a 5.9% ar y swydd cyfatebol i £16,000.

Ar adeg ymddeol bydd cyfrifiadau pensiwn ar wahân yn cael eu gwneud ar gyfer pob swydd er mwyn penderfynu ar swm y buddion a gasglwyd ymhob un.  

Diweddarwyd: 6/15/10 9:26 AM
Chwilio
Cronfa Bensiynau Clwyd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NA Ymwadiad