skip navigation
Rydych chi yma: Hafan  > Aelodau > Lwfans Blynyddol

Lwfans Blynyddol


Os ydych yn cyfrannu at gynllun pensiwn, mae gennych Lwfans Blynyddol (LB). Y Llywodraeth sy’n pennu’r LB, sef swm y pensiwn y gallwch ei gronni mewn unrhyw flwyddyn ariannol cyn y bydd yn rhaid i chi dalu treth. Yr LB ar gyfer 2012/2013 yw £50,000.

Caiff eich LB ei gyfrifol drwy ddefnyddio’r cynnydd yng ngwerth eich buddion Llywodraeth Leol o’r naill flwyddyn ariannol i’r llall. Os yw’r swm hwn dros £50,000, mae’n rhaid i chi dalu treth.

Mae’r enghraifft a ganlyn yn dangos sut y mae’r Adran Bensiynau’n cyfrifo Lwfans Blynyddol.

ENGHRAIFFT YN UNIG

CAM 1

Ar 1 Mawrth 2011, mae gan John 19 mlynedd o aelodaeth (16 mlynedd hyd at 31/03/2008 yn seiliedig ar gyfradd gronni o 1/80 a 3 blynedd o aelodaeth ers 01/04/2008 yn seiliedig ar gyfradd gronni o 1/60). Mae’n ennill cyflog o £40,000. Dyma werth ei fuddion:

Pensiwn blynyddol:

£40,000 x (16/80 + 3/60) = £10,000

Lluosi â’r cynnydd mewn chwyddiant (a bennir gan y Trysorlys)

e.e. 1.02 = £10,200 gwerth cyfredol

Cyfandaliad:

£40,000 x (3 x 16/80) = £24,000

Lluosi â’r cynnydd mewn chwyddiant  (a bennir gan y Trysorlys)

e.e. 1.02 = £24,480 gwerth cyfredol

CAM 2

Ar 31 Mawrth 2012, bydd gan John 20 mlynedd o aelodaeth, a bydd yn ennill cyflog o £45,000.  Dyma werth ei fuddion:

Pensiwn blynyddol:

£45,000 x (16/80 + 4/60) = £12,000

Cyfandaliad:

£45,000 x (3 x 16/80) = £27,000

CAM 3

Cyfrifo’r gwahaniaeth yng ngwerth y buddion:

Pensiwn blynyddol:

£12,000 - £10,200 = £1,800

Cyfandaliad:

£27,000 - £24,480 = £2,520

CAM 4

Cyfrifo’r cynnydd yng ngwerth y buddion dros y 2 flynedd ariannol:

Pensiwn blynyddol:

£1,800 x 16* = £28,800

* 16 – ffactor generig a bennir gan y Llywodraeth ac a ddefnyddir ym mhob achos.

Cyfandaliad:                                    £2,520

 

Gwir gynnydd:                                £28,800 + £2,250 = £31,320

Mae John wedi defnyddio £31,320 o’i Lwfans Blynyddol, sy’n llai na’r uchafswm sef £50,000.

Pe bai wedi mynd dros uchafswm ei Lwfans Blynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol honno, gallai ddefnyddio unrhyw lwfans dros ben o’r 3 blynedd ariannol blaenorol. Byddai Cronfa Bensiynau Clwyd yn cyfrifo hyn ar eich rhan.

Diweddarwyd: 5/3/12 10:50 AM
Chwilio
Cronfa Bensiynau Clwyd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NA Ymwadiad