skip navigation
Rydych chi yma: Hafan  > Aelodau > Cymhwysedd

Cymhwysedd


Byddwch yn dod yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn awtomatig os:

  • ydych chi dan 75 oed, a
  • bod gennych chi gytundeb cyflogaeth di-dor am gyfnod o 3 mis neu ragor, ac
  • eich bod yn gyflogedig ym maes Llywodraeth Leol neu gan gyflogwr sy’n defnyddio’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol fel eu cynllun pensiwn galwedigaethol 

Os ydych chi’n weithiwr achlysurol / wrth gefn byddwch yn dod yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn awtomatig hefyd cyn belled ag y bo gennych chi gytundeb cyflogaeth di-dor am gyfnod o 3 mis neu ragor.  Nid ydych chi’n gymwys i fod yn aelod heb gytundeb cyflogaeth di-dor. 

Os ydych chi wedi eich gwneud yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn awtomatig ac nad ydych chi’n dymuno bod yn aelod, mae’n rhaid i chi lenwi Ffurflen Dewis Peidio ag Ymuno (Agor ffenestr newydd 138KB) a’i dychwelyd i’r Adran Cyflogres.  Dylech ddarllen am y buddion a gynigir gan y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol cyn i chi ddewis eithrio o fod yn aelod, er mwyn i chi fod yn ymwybodol o’r buddion na fyddwch chi’n eu derbyn. 

Os ydych chi wedi dewis eithrio o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn flaenorol a’ch bod chi’n dymuno bod yn aelod yn awr, gofynnir i chi lenwi Ffurflen Dewis Ymuno (Agor ffenestr newydd 189KB) a’i chyflwyno i’ch Adran Cyflogres. 

Diweddarwyd: 7/15/10 12:20 PM
Chwilio
Cronfa Bensiynau Clwyd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NA Ymwadiad