skip navigation
Rydych chi yma: Hafan  > Aelodau > Marwolaeth mewn Gwasanaeth

Marwolaeth mewn Gwasanaeth


Grant Marwolaeth

Os ydych chi’n marw tra’n parhau mewn cyflogaeth bensiynadwy, bydd Cronfa Bensiynau Clwyd yn talu grant marwolaeth i’ch ystad neu i’ch buddiolwyr.  Mae’r grant marwolaeth yn hafal i 3 gwaith eich gwir gyflog terfynol ar adeg eich marolwaeth.  Mae’n bwysig eich bod chi’n llenwi Ffurflen Mynegi Dymuniad Grant Marwolaeth (Agor ffenestr newydd 112KB) fel bo gan Gronfa Bensiynau Clwyd gofnod ysgrifenedig o’ch dymuniadau.  Mae gan Gronfa Bensiynau Clwyd ddisgresiwn ynghylch i bwy y dylid talu’r grant.  Os nad ydych chi’n llenwi’r ffurflen hon, bydd y grant marwolaeth yn cael ei dalu i’ch ystad chi a gallai fod yn ofynnol talu Treth Etifeddiaeth ar hynny.  

Pensiynau

Yn ychwanegol at y grant marwolaeth mae darpariaeth ar gyfer pensiynau i bartneriaid sy’n goroesi, a delir iddynt am weddill eu hoes.  Os ydych chi’n marw mewn gwasanaeth bydd Cronfa Bensiynau Clwyd yn talu pensiwn i unrhyw un o’r isod: 

Gwybodaeth yn yr adran hon
Os ydych yn marw cyn eich Partner Sifil, bydd pensiwn yn cael ei dalu iddynt fel mater o drefn yn seiliedig ar eich aelodaeth lawn â’r CPLlL.
Os oes gennych chi blentyn / plant sydd, ar ddyddiad eich marwolaeth chi:
Newidiodd Rheoliadau’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar 1 Ebrill 2008 i ganiatáu i aelodau’r cynllun enwebu eu partner cydfyw i dderbyn pensiwn dibynnydd.
Mae Cronfa Bensiynau Clwyd yn talu pensiwn gŵr gweddw/gwraig weddw wedi’i seilio ar y cyfan neu gyfran o’ch aelodaeth yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, yn dibynnu ar ffactorau penodol:
Diweddarwyd: 6/15/10 10:07 AM
Chwilio
Cronfa Bensiynau Clwyd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NA Ymwadiad