- Rhybuddion Newyddion
- Cymhwysedd
- Buddion y Cynllun
- Cyfraniadau Pensiwn
- Cyflogaethau Llusog
- Trosglwyddo Pensiynau
- Cyfraniadau Ychwanegol
- Absenoldeb o'r Gwaith
- Gadael y CPLIL cyn ymddeol
- Dewisiadau Ymddeol
- Lwfans Blynyddol
- Trosi Pensiwn
- Marwolaeth mewn Gwasanaeth
- Rhannu Pensiwn yn dilyn Ysgariad neu Ddiddymiad Partneriaeth Sifil
- Cyfrifo Pensiwn
- Datganiad Pensiwn Blynyddol
- Llyfrynnau Pensiynau
- Ffurflenni Pensiwn
- Cyflwyniadau a galw heibio
- Apelio
- Cwestiynau Cyffredin
- Cysylltau Defnyddiol
- Cysylltu gyda ni
Buddion Y Cynllun
Bydd eich buddion pensiwn yn cael eu seilio ar eich cyflog terfynol (y cyfeirir ato fel eich ‘cyflog pensiynadwy’) a nifer y blynyddoedd o fod yn aelod yn y cynllun pensiwn. Mae aelodau’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol sy’n gweithio’n amser llawn yn cronni aelodaeth ar sail diwrnod am ddiwrnod, felly mae 1 diwrnod calendr yn hafal i 1 diwrnod o aelodaeth bensiynadwy.
Mae aelodau’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol sy’n gweithio’n rhan amser neu yn ystod tymor yr ysgol yn unig yn cronni aelodaeth ar sail pro rata. Mae nifer yr oriau rydych chi’n ei weithio bob wythnos a nifer yr wythnosau rydych chi’n eu gweithio bob blwyddyn yn cael eu defnyddio i gyfrifo faint o ddyddiau o aelodaeth bensiynadwy fydd yn cael eu credydu i chi yn ystod pob blwyddyn galendr rydych chi’n ei weithio.
Enghraifft cyflogai rhan amser: Mae Anita yn gweithio 18.5 awr yr wythnos sydd yn union hanner oriau cytundeb amser llawn. Golyga hyn am bob blwyddyn galendr mae hi’n gweithio bydd Anita yn cronni 6 mis o aelodaeth yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
Enghraifft cyflogai yn ystod tymor yr ysgol yn unig: Mae Gary yn gweithio 37 awr yr wythnos am 44 wythnos y flwyddyn. Er ei fod yn gweithio oriau amser llawn, mae’n cronni 309 o ddyddiau am bob blwyddyn galendr lle bo’n gweithio yn ystod tymor yr ysgol yn unig:-
44 wythnos / 52 wythnos x 37 awr = 31.31 awr dros 52 wythnos
31.31 / 37.00 x 365 diwrnod = 309 diwrnod
Bydd buddion sydd wedi’u cronni hyd at 31 Mawrth 2008 yn cael eu seilio ar 80fed rhan ac unrhyw fuddion ers 1 Ebrill 2008 yn cael eu seilio ar 60fed rhan.
Dangosir enghraifft o sut y cyfrifir eich buddion isod:-
Pensiwn Blynyddol
1/80 x cyflog pensiynadwy terfynol x aelodaeth hyd at 31/03/2008
+
1/60 x cyflog pensiynadwy terfynol x aelodaeth o 01/04/2008
Hefyd byddwch yn derbyn lwmp swm ar adeg eich ymddeoliad os ydych chi’n wedi cronni aelodaeth yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol cyn 1 Ebrill 2008. Cyfrifir y lwmp swm di-dreth fel a ganlyn:
Grant Ymddeol
3/80 x cyflog pensiynadwy terfynol x aelodaeth hyd at 31/03/2008


