skip navigation
Rydych chi yma: Hafan  > Aelodau > Cyfraniadau Ychwanegol

Cyfraniadau Ychwanegol


Mae dau gyfleuster sy’n caniatáu i chi ychwanegu at eich buddion pensiwn.  Y ddau ddewis yw: 

  • Cyfraniadau Rheolaidd Ychwanegol
  • Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol

Os ydych chi’n dechrau talu cyfraniadau ychwanegol, rheolaidd neu wirfoddol, nid yw eich cyflogwr yn talu cyfraniadau ychwanegol i’r gronfa hon. 

Os dymunwch cewch wneud cyfraniadau drwy gyfrwng Cyfraniadau Rheolaidd Ychwanegol a Chyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol. 

Sylwer nad yw Cronfa Bensiynau Clwyd wedi’i thrwyddedu i ddarparu cyngor ariannol.  Fodd bynnag, fe wnawn ni sicrhau eich bod chi’n derbyn yr holl wybodaeth sy’n ofynnol er mwyn gwneud penderfyniad gwybodus.   

Gwybodaeth yn yr adran hon
Mae gennych chi’r dewis i gynyddu gwerth eich pensiwn blynyddol mewn lluosymiau o £250, hyd at uchafswm o £5,000, drwy dalu cyfraniadau ychwanegol o’ch cyflog misol.
Os ydych chi’n dewis trefniant Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol mae’r cyfraniadau rydych chi’n eu gwneud drwy’r trefniant hwn yn cael eu buddsoddi ar wahân mewn cronfeydd a reolir gan ein darparydd Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol mewnol, Prudential.
Diweddarwyd: 7/14/10 2:33 PM
Chwilio
Cronfa Bensiynau Clwyd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NA Ymwadiad