skip navigation
Rydych chi yma: Hafan  > Pensiwn Gohiriedig > Trosi Pensiwn

Trosi Pensiwn


Pan rydych chi’n ymddeol mae gennych chi’r dewis i drosi peth o’ch pensiwn blynyddol yn lwmp swm.  Am bob £1 o bensiwn blynyddol rydych chi’n ei hepgor rydych chi’n ennill £12 mewn lwmp swm. 

Fodd bynnag, mae rhai rheolau penodol gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi sy’n cyfyngu ar y swm y gallwch ei drosi.  Caniateir i chi gymryd 25% o werth eich cronfa bensiwn fel arian parod di-dreth. 

Os hoffech gyfrifo gwerth eich cronfa bensiwn, defnyddiwch y fformiwla isod:

(20 x pensiwn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol blynyddol sylfaenol) + lwmp swm sylfaenol y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (os ydych yn cymryd un) + cronfa Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol mewnol (os oes gennych chi un)

Gwerth y gronfa bensiwn x 25% = Terfyn y lwmp swm di-dreth

Bydd Cronfa Bensiynau Clwyd yn cyfrifo eich terfyn i chi ar adeg ymddeoliad ac yn darparu rhestr o’ch dewisiadau trosi i chi. 

Diweddarwyd: 6/14/10 11:53 AM
Chwilio
Cronfa Bensiynau Clwyd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NA Ymwadiad