- Cyfrifo ch Pensiwn
- Cynnydd yn eich Pensiwn
- Trosglwyddo ch Pensiwn
- Talu Pensiwn Gohiriedig
- Cwtogiadau yn eich Buddion
- Trosi Pensiwn
- Ymddeol yn Gynnar
- Lwfans Blynyddol
- Marwolaeth Pensiynwr Gohiriedig
- Rhannu Pensiwn yn dilyn Ysgariad neu Ddiddymiad Partneriaeth Sifil
- Datganiad pensiwn blynddol
- Llyfrynnau Pensiynau
- Ffurflenni Pensiwn
- Apelio
- Cwestiynau Cyffredin
- Cysylltau Defnyddiol
- Cysylltu gyda ni
Ymddeoliad Cynnar
Er mai 65 oed yw’r oedran ymddeol arferol, 60 oed yw’r oedran mwyaf cyffredin ar gyfer talu buddion gohiriedig.
Os hoffech i’ch buddion gohiriedig gael eu talu cyn i chi fod yn 60 oed, mae’n rhaid i chi siarad gyda’ch cyn-gyflogwr gan fod rhaid cael caniatâd y cyflogwr i ryddhau buddion pensiwn yn gynnar. Gellir rhyddhau buddion i bensiynwyr gohiriedig sy’n o leiaf 55 oed. Fodd bynnag, gall fod yn bosibl cael y pensiwn rhwng 50 a 54 oed. Cysylltwch gyda’r Adran Pensiynau i ganfod pa oedran y gallech chi fod yn gymwys i dderbyn eich buddion.
Gall eich cyflogwr ryddhau’r pensiwn ar sail tosturiol neu os ydych chi’n dioddef gwaeledd iechyd. Rhaid i’ch achos chi gael ei adolygu gan ymarferwr meddygol annibynnol er mwyn rhyddhau’r buddion ar sail gwaeledd iechyd. Bydd eich cyn-gyflogwr yn trefnu i chi weld meddyg y Gronfa Bensiynau. Os yw’n cymeradwyo eich achos chi, llofnodir tystysgrif gwaeledd iechyd a’i hanfon i Gronfa Bensiynau Clwyd.
Bydd eich cyn-gyflogwr yn hysbysu Cronfa Bensiynau Clwyd am ryddhau’r buddion yn gynnar. Byddant yn rhoi cyfarwyddiadau i ni gysylltu gyda chi i drefnu’r taliadau. Mae’n ofynnol cael caniatâd eich cyn-gyflogwr gan y gallai caniatáu rhyddhau’r buddion yn gynnar olygu costau iddynt. Gweler y rhestr manylion cyswllt cyflogwyr (Agor ffenestr newydd 72KB).
Ac eithrio mewn achosion o waeledd iechyd, gallai eich buddion pensiwn gael eu cwtogi os ydych chi’n eu cymryd cyn bod yn 65 oed, onibai eich bod chi’n gymwys ac yn bodloni’r Rheol 85 Mlynedd.


