- Cymhwysedd
- Buddion y Cynllun
- Cyfartaledd Cyflog Gyrfa
- Sut i ymuno
- Cyfraniadau Pensiwn
- Trosglwyddo Pensiynau
- Cyfraniadau Ychwanegol
- Gadael y CPLIL cyn Ymddeol
- Dewisiadau Ymddeol
- Lwfans Blynyddol
- Cynnydd yn eich Pensiwn
- Trosi Pensiwn
- Pensiynau ar ol Marwolaeth
- Rhannu Pensiwn yn dilyn Ysgariad neu Ddiddymiad Partneriaeth Sifil
- Amcangyfrifon Pensiwn
- Llyfrynnau Pensiynau
- Ffurflenni Pensiynau
- Apelio
- Cwestiynau Cyffredin
- Cysylltau Defnyddiol
- Cysylltu gyda ni
Rydych chi yma: Hafan
> Cynghorwyr > Dewisiadau Ymddeol
Dewisiadau Ymddeol
Yr oedran ymddeol arferol o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yw 65 oed, er bod darpariaethau sy’n caniatáu i chi ymddeol ynghynt neu’n hwyrach. Mae gwahanol fathau o ymddeoliad y gallech chi fod yn gymwys iddynt, yn dibynnu ar eich oedran. Mae’n rhaid i chi fod yn aelod o’r cynllun am o leiaf 3 mis i fod yn gymwys i dderbyn pensiwn ar adeg ymddeol.
Gwybodaeth yn yr adran hon
Os oes gennych chi gyfanswm o 3 mis o aelodaeth o leiaf, neu eich bod chi wedi trosglwyddo pensiwn i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol sy’n cyfateb i hyn, cewch adael eich cyflogaeth yn wirfoddol a derbyn eich buddion pensiwn o unrhyw adeg o 60 oed ymlaen.
Os oes gennych o leiaf 3 mis o aelodaeth neu wedi dod â gwerth trosglwyddo i'r CPLlL, efallai y byddwch yn gymwys i gael eich budd-daliadau heb eu lleihau yn gynnar ar sail salwch, beth bynnag yw eich oedran.
Os ydych chi’n parhau i weithio ar ôl i chi gyrraedd 65 oed, cewch barhau i dalu cyfraniadau pensiwn a chronni rhagor o aelodaeth yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
Os ydych chi’n ymddeol ar eich pen-blwydd yn 65 oed bydd eich pensiwn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn cael ei dalu i chi yn awtomatig. Ni fydd unrhyw gwtogiadau yn berthnasol i’r pensiwn gan y byddwch chi wedi cyrraedd oedran ymddeol arferol
Roedd rhaid cael gwared o’r Rheol 85 mlynedd o reoliadau pensiwn am ei bod yn groes i ddeddfwriaeth gwahaniaethu ar sail oedran.
Diweddarwyd: 6/11/10 9:49 AM
Cymraeg | English


