skip navigation
Rydych chi yma: Hafan  > Cynghorwyr > Cyfraniadau Pensiwn

Cyfraniadau Pensiwn


Rydych yn talu 6% o'ch lwfansau fel Cynghorydd i'r CPLlL. Os ydych yn talu treth y byddwch yn cael rhyddhad treth ar eich cyfraniadau ar yr adeg y maent yn cael eu tynnu o'ch lwfansau. Os ydych yn talu Yswiriant Gwladol, byddwch yn talu cyfradd is o gyfraniadau Yswiriant Gwladol hyd at oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Mae talu cyfraniadau YG llai yn golygu nad ydych yn cyfrannu at Ail Bensiwn y Wladwriaeth (S2P). Serch hynny, bydd y buddion a delir i chi o'r CPLlL yn fwy na'r buddion a delir i chi o'r S2P.

Mae eich Awdurdod Lleol hefyd yn cyfrannu ar eich rhan. Bydd y swm a delir gan eich Awdurdod Lleol yn cael ei adolygu bob 3 blynedd er mwyn sicrhau bod y gyfradd cyfraniad cywir yn cael ei dalu.

Diweddarwyd: 6/10/10 4:07 PM
Chwilio
Cronfa Bensiynau Clwyd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NA Ymwadiad