- Cymhwysedd
- Buddion y Cynllun
- Cyfartaledd Cyflog Gyrfa
- Sut i ymuno
- Cyfraniadau Pensiwn
- Trosglwyddo Pensiynau
- Cyfraniadau Ychwanegol
- Gadael y CPLIL cyn Ymddeol
- Dewisiadau Ymddeol
- Lwfans Blynyddol
- Cynnydd yn eich Pensiwn
- Trosi Pensiwn
- Pensiynau ar ol Marwolaeth
- Rhannu Pensiwn yn dilyn Ysgariad neu Ddiddymiad Partneriaeth Sifil
- Amcangyfrifon Pensiwn
- Llyfrynnau Pensiynau
- Ffurflenni Pensiynau
- Apelio
- Cwestiynau Cyffredin
- Cysylltau Defnyddiol
- Cysylltu gyda ni
Cyfartaledd Cyflog Gyrfa
Dyma yw eich lwfansau fel Cynghorydd ar gyfer pob blwyddyn neu ran o flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth wedi eu cynyddu (ar wahân i'r blynyddoedd cyflog terfynol) yn ôl y cynnydd yn y Mynegai Prisiau Defnyddwyr rhwng diwedd y flwyddyn berthnasol a diwedd y mis pryd y gwnaethoch chi adael y cynllun.
Yna bydd cyfanswm cyflog bob blwyddyn a ail-brisiwyd yn cael ei rannu gan y cyfanswm nifer blynyddoedd a blynyddoedd rhannol yr ydych wedi bod yn aelod o'r CPLlL er mwyn cyrraedd ar gyfartaledd cyflog gyrfa. Defnyddir y wybodaeth hon wrth gyfrifo eich budd-daliadau CPLlL.
Enghraifft:
Mae aelod etholedig wedi bod yn aelod o'r CPLlL ers 5 mlynedd. Mae’n ymddeol yn 65 oed. Mae ei enillion pensiynadwy a’r ffactorau ailbrisio fel a ganlyn:
Enillion Blwyddyn 1 £9,400 x ffactor ailbrisio 1.12 = £10,528
Enillion Blwyddyn 2 £9,600 x ffactor ailbrisio 1.08 = £10,368
Enillion Blwyddyn 3 £9,900 x ffactor ailbrisio 1.05 = £10,395
Enillion Blwyddyn 4 £10,400 x ffactor ailbrisio 1.02 = £10,608
Enillion Blwyddyn 5 £11,000 x ffactor ailbrisio 1.00 = £11,000
CYFANSWM = £52,899
£52,899 / 5 mlynedd = £10,579


