- Cymhwysedd
- Buddion y Cynllun
- Cyfartaledd Cyflog Gyrfa
- Sut i ymuno
- Cyfraniadau Pensiwn
- Trosglwyddo Pensiynau
- Cyfraniadau Ychwanegol
- Gadael y CPLIL cyn Ymddeol
- Dewisiadau Ymddeol
- Lwfans Blynyddol
- Cynnydd yn eich Pensiwn
- Trosi Pensiwn
- Pensiynau ar ol Marwolaeth
- Rhannu Pensiwn yn dilyn Ysgariad neu Ddiddymiad Partneriaeth Sifil
- Amcangyfrifon Pensiwn
- Llyfrynnau Pensiynau
- Ffurflenni Pensiynau
- Apelio
- Cwestiynau Cyffredin
- Cysylltau Defnyddiol
- Cysylltu gyda ni
Apelio
Os ydych chi’n dymuno apelio yn erbyn penderfyniad, neu os oes cwyn gennych chi, ysgrifennwch at Gronfa Bensiynau Clwyd i ddechrau er mwyn i ni geisio datrys eich problem. Nodir ein manylion cyswllt yma.
Os na ellir datrys y broblem mae Gweithdrefn Datrys Anghydfod yn fewnol yn bodoli.
Mae weithdrefn hon yn broses dau gam:
Cam1 – Cyn pen 6 mis wedi i chi gael achos i gwyno, dylech gyflwyno cwyn ysgrifenedig i’r unigolyn penodedig a benodwyd gan Gyngor Sir y Fflint drwy lenwi Ffurflen Cam 1. Bydd yr unigolyn penodedig yn adolygu eich achos a rheoliadau’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol i weld a oes gennych chi achos dilys. Cyn pen deufis o wneud eich cwyn byddwch yn derbyn penderfyniad neu reswm am unrhyw oedi cyn gwneud penderfyniad.
Cam2 – Os ydych chi’n anhapus gyda phenderfyniad yr unigolyn penodedig, neu os nad ydych chi wedi derbyn penderfyniad gan yr unigolyn penodedig cyn pen 3 mis o wneud cwyn, cewch fynd â’ch cwyn ymlaen i’r cam nesaf drwy lenwi Ffurflen Cam 2. Rhaid i chi gyflwyno cwyn ysgrifenedig cyn pen 6 mis o dderbyn penderfyniad Cam 1 neu o fewn 6 mis i’r dyddiad yr oeddech chi’n disgwyl i benderfyniad gael ei wneud.
Ymdrinnir â Cham 2 gan swyddog na fu’n ymwneud â’ch achos chi’n flaenorol. Bydd y swyddog a benodwyd yn gweithredu ar ran yr awdurdod gweinyddu. Edrychir ar eich achos eto a bydd y swyddog a benodwyd yn cyflwyno ei benderfyniad i chi yn cadarnhau neu’n disodli’r penderfyniad Cam 1, neu bydd yn esbonio’r rhesymau am oedi cyn gwneud penderfyniad.
Arweiniad i'r Drefn Datrys Anghydfod Mewnol (Agor ffenestr newydd 246KB)


