skip navigation
Rydych chi yma: Hafan  > Dibynyddion > Gwerth Buddion i Ddibynyddion

Gwerth Buddion i Ddibynyddion


Mae dau fath o Bensiynau Dibynyddion:

  • Pensiynau Partner sy’n Goroesi
  • Pensiynau Plant

Pensiynau Partner sy’n Goroesi

Bydd gwerth gwirioneddol pensiwn eich Partner sy’n Goroesi yn dibynnu ar nifer o ffactorau. Y prif ffactor i’w ystyried yw pa bryd gwnaeth yr Ymadawedig adael y cynllun pensiwn. A wnaeth adael:

  • ar neu cyn 31 Mawrth 2008, ynte
  • ar neu cyn 1 Ebrill 2008

Ar neu cyn 31 Mawrth 2008

Os gwnaeth yr Ymadawedig adael y CPLlL ar neu cyn 31 Mawrth 2008, gall y pensiynau Partner sy’n Goroesi gael eu talu i Weddwon neu i Bartneriaid Sifil sy’n goroesi.

Mae’r pensiwn wedi’i seilio ar y fformiwla a ganlyn:

1/160 x cyflog pensiynadwy terfynol x cyfanswm perthnasol o aelodaeth CPLlL

Mae’r tabl isod yn dangos y cyfanswm perthnasol o aelodaeth CPLlL i gael ei ddefnyddio ar gyfer pensiwn Partner sy’n Goroesi.

 

Gwraig Weddw

Gŵr Gweddw

Partner Sifil

Priodi cyn ymddeol

Pob aelodaeth

Aelodaeth ar ôl Ebrill 1972

Ddim yn gymwys

Priodi ar ôl ymddeol

Aelodaeth ar ôl Ebrill 1978

Aelodaeth ar ôl Ebrill 1988

Ddim yn gymwys

Partneriaeth Sifil  cyn Ymddeol

Ddim yn gymwys

Ddim yn gymwys

Aelodaeth ar ôl Ebrill 1988

Partneriaeth Sifil  ar ôl Ymddeol

Ddim yn gymwys

Ddim yn gymwys

Aelodaeth cyn Ebrill 1988

Ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008

Os gwnaeth yr Ymadawedig adael ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008, gall Pensiynau Partner sy’n Goroesi gael eu talu i Weddwon (Gwŷr neu Wragedd), Partneriaid Sifil sy’n Goroesi neu Bartneriaid Cydfyw enwebedig sy’n goroesi. 

Mae’r pensiwn wedi’i seilio ar y fformiwla a ganlyn:

1/160 x cyflog pensiynadwy terfynol x cyfanswm perthnasol o aelodaeth CPLlL

Mae’r tabl isod yn dangos y cyfanswm perthnasol o aelodaeth CPLlL i gael ei ddefnyddio ar gyfer pensiwn Partner sy’n Goroesi.

 

Gwragedd Gweddw

Gwŷr Gweddw

Partneriaid Sifil

Partneriaid yn Cydfyw

Priodi cyn ymddeol

Pob aelodaeth

Pob aelodaeth

Ddim yn gymwys

Ddim yn gymwys

Priodi ar ôl ymddeol

Aelodaeth ar ôl Ebrill 1978

Aelodaeth ar ôl Ebrill 1988

Ddim yn gymwys

Ddim yn gymwys

Partneriaeth Sifil cyn ymddeol

Ddim yn gymwys

Ddim yn gymwys

Pob aelodaeth

Ddim yn gymwys

Partneriaeth Sifil ar ôl ymddeol

Ddim yn gymwys

Ddim yn gymwys

Pob aelodaeth

Ddim yn gymwys

Partneriaid  Cydfyw

Ddim yn gymwys

Ddim yn gymwys

Ddim yn gymwys

Aelodaeth cyn Ebrill 1988*

*Gall pensiynau Partneriaid Cydfyw gael eu seilio ar yr holl aelodaeth os oedd yr Ymadawedig wedi talu cyfraniadau pensiwn ychwanegol ar gyfer aelodaeth cyn Ebrill 1988.

Pensiynau Plant

Mae gwerth pensiwn plentyn yn dibynnu ar a oes angen talu pensiwn Partner sy’n Goroesi a faint o blant sy’n gymwys i gael pensiwn plentyn.

Bydd ffigyrau ar gyfer pensiynau Partner sy’n Goroesi a phensiynau Plant yn cael eu cadarnhau i chi mewn ysgrifen unwaith y bydd y pensiynau wedi cael eu cyfrifo. 

Diweddarwyd: 7/7/10 3:51 PM
Chwilio
Cronfa Bensiynau Clwyd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NA Ymwadiad