skip navigation
Rydych chi yma: Hafan  > Dibynyddion > Plant sy’n gymwys i dderbyn pensiwn

Plant sy’n gymwys i dderbyn pensiwn


Telir pensiwn i blentyn os yw eu rhiant yn marw a chanddynt fuddiannau CPLlL.  Telir pensiwn plentyn am gyfnod cyfyngedig yn unig.  Mae’r cyfnod yn dibynnu ar y rheoliadau pensiwn sy’n berthnasol i’r aelod ymadawedig o’r CPLlL.

Os gadawodd yr aelod ymadawedig y cynllun pensiwn ar neu cyn 31 Mawrth 2008, gellir talu pensiwn plentyn nes bydd yn 17 oed (neu hyd at 23 oed os yw’r ‘plentyn’ yn dal i fod mewn addysg neu hyfforddiant llawn amser).

Os gadawodd yr aelod ymadawedig y cynllun pensiwn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008, gellir talu pensiwn plentyn nes bydd yn 18 oed (neu hyd at 23 oed os yw’r ‘plentyn’ yn dal i fod mewn addysg neu hyfforddiant llawn amser).

Waeth pryd y gadawodd yr aelod ymadawedig y CPLlL, gellir parhau i dalu pensiwn plentyn y tu hwnt i’r cyfyngiadau oedran hyn os oes gan y ‘plentyn’ anabledd sy’n eu hatal rhag gweithio ac sy’n eu gwneud yn ddibynnol yn ariannol ar y rhiant ymadawedig.

Diweddarwyd: 7/8/10 8:53 AM
Chwilio
Cronfa Bensiynau Clwyd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NA Ymwadiad