skip navigation
Rydych chi yma: Hafan  > Dibynyddion > Apelio

Apelio


Os ydych chi’n dymuno apelio yn erbyn penderfyniad, neu os oes cwyn gennych chi, ysgrifennwch at Gronfa Bensiynau Clwyd i ddechrau er mwyn i ni geisio datrys eich problem.  Nodir ein manylion cyswllt yma.

Os na ellir datrys y broblem mae Gweithdrefn Datrys Anghydfod yn fewnol yn bodoli. 

Mae’r weithdrefn hon yn broses dau gam:

Cam 1 – Cyn pen 6 mis wedi i chi gael achos i gwyno, dylech gyflwyno cwyn ysgrifenedig i’r unigolyn penodedig a benodwyd gan Gyngor Sir y Fflint drwy lenwi Ffurflen Cam 1.  Bydd yr unigolyn penodedig yn adolygu eich achos a rheoliadau’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol i weld a oes gennych chi achos dilys.  Cyn pen deufis o wneud eich cwyn byddwch yn derbyn penderfyniad neu reswm am unrhyw oedi cyn gwneud penderfyniad. 

Cam 2 – Os ydych chi’n anhapus gyda phenderfyniad yr unigolyn penodedig, neu os nad ydych chi wedi derbyn penderfyniad gan yr unigolyn penodedig cyn pen 3 mis o wneud cwyn, cewch fynd â’ch cwyn ymlaen i’r cam nesaf drwy lenwi Ffurflen Cam 2.  Rhaid i chi gyflwyno cwyn ysgrifenedig cyn pen 6 mis o dderbyn penderfyniad Cam 1 neu o fewn 6 mis i’r dyddiad yr oeddech chi’n disgwyl i benderfyniad gael ei wneud. 

Ymdrinnir â Cham 2 gan swyddog na fu’n ymwneud â’ch achos chi’n flaenorol.  Bydd y swyddog a benodwyd yn gweithredu ar ran yr awdurdod gweinyddu.  Edrychir ar eich achos eto a bydd y swyddog a benodwyd yn cyflwyno ei benderfyniad i chi yn cadarnhau neu’n disodli’r penderfyniad Cam 1, neu bydd yn esbonio’r rhesymau am oedi cyn gwneud penderfyniad. 

Arweiniad i'r Drefn Datrys Anghydfod Mewnol (Agor ffenestr newydd 246KB)

Diweddarwyd: 11/30/10 10:13 AM
Chwilio
Cronfa Bensiynau Clwyd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NA Ymwadiad