skip navigation
Rydych chi yma: Hafan > Dibynyddion > Cwestiynau Cyffredin > Pryd bydda’i yn derbyn fy P60?

Pryd bydda’i yn derbyn fy P60?


Rhoddir eich P60 bob mis Mai. Dylech gadw eich P60 mewn lle diogel oherwydd efallai y bydd arnoch ei angen i brofi faint o bensiwn a dderbyniwyd gennych yn y 12 mis diwethaf os byddwch yn hawlio budd-daliadau fel budd-dal tai neu gymorth incwm.

Gwybodaeth yn yr adran hon
Oes, gall Cronfa Bensiynau Clwyd dalu eich pensiwn i gyfrif banc tramor trwy Xafinity Paymaster a fydd yn trosi eich arian i’r arian perthnasol. Sylwch fod Xafinity Paymaster yn codi £2.74 am bob trafodiad am y cyfleuster hwn.
Na. Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) sydd yn gweinyddu pensiwn henoed y Wladwriaeth. Medrant hwy roi gwybodaeth i chi am eich pensiwn henoed. Cysylltwch â’r DWP ar 0845 60 60 265.
Eich swyddfa dreth incwm, leol sy’n rhoi eich cod treth.
Gellir talu pensiwn plentyn yn unig hyd at 18 oed (neu hyd at 23 oed os yw’n dal mewn addysg neu hyfforddiant amser-llawn).
Dylech. Mae Cronfa Bensiynau Clwyd yn anfon llythyrau newyddion, P60s a llythyrau am Godiadau Pensiwn bob blwyddyn. Rhaid i ni wybod eich manylion personol cyfoes er mwyn bod yn sicr ein bod yn gyrru’r wybodaeth at y cyfeiriad cywir.
Bydd eich pensiwn yn dod i ben cyn gynted ag yr hysbysir yr Adran Bensiynau o’ch marwolaeth. Adenillir unrhyw bensiwn a or-dalwyd. Nid oes modd parhau i dalu’r pensiwn i unrhyw berthynas neu gymar arall sy’n dal i fyw.
Telir eich pensiwn fel rheol ar y 28 o bob mis. Fodd bynnag, os syrth yr 28 ar Ŵyl Banc neu benwythnos, telir eich pensiwn ar y diwrnod gwaith olaf cyn y 28.
Byddwch yn derbyn slip tâl yn unig os oes gwahaniaeth yng ngwerth eich pensiwn o £5 neu fwy.
Bydd, mae gwerth eich pensiwn blynyddol yn indecs-gysylltiol.
Diweddarwyd: 7/1/10 3:48 PM
Chwilio
Cronfa Bensiynau Clwyd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NA Ymwadiad