skip navigation
Rydych chi yma: Hafan  > Llywodraethu a Buddsoddiadau > Cysylltau Defnyddiol

Cysylltau Defnyddiol


Isod mae dolennau cyswllt i safleoedd eraill a allai fod o ddefnydd ichi. Rydym hefyd wedi cynnwys disgrifiad byr o’u cynnwys ar eich cyfer. Bydd y tudalennau’n agor mewn ffenestr ar wahân.

Sylwch y bydd y ddolen hon yn eich tywys i wefan allanol ac y bydd yn Saesneg yn unig.

LGE Crëwyd Cyflogwyr Llywodraeth Leol gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol ym mis Ebrill 2006. Maent yn  gweithio gydag awdurdodau lleol, cyflogwyr rhanbarthol a chyrff eraill i ymdrin â thâl, pensiynau a’r cytundeb cyflogaeth, i sicrhau bod gwasanaethau lleol fforddiadwy ac o’r radd flaenaf yn cael eu darparu.
The Pensions Regulator Y Rheolydd Pensiynau (a elwid gynt yn OPRA) yw rheolydd y Deyrnas Unedig ynghylch trefniadau pensiwn a gynigir gan gyflogwyr.
Pensions Ombudsman Mae’r Ombwdsman Pensiynau yn ymchwilio a phenderfynu ar gwynion ac anghydfod ynghylch y ffordd y gweinyddir cynlluniau pensiwn. Penderfynwyd ar swyddogaeth a phwerau’r Ombwdsman Pensiynau gan y Senedd, ac fe’i penodir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau. Mae’n hollol annibynnol ac yn gweithredu fel beirniad diduedd.
NAPF Cymdeithas Genedlaethol Cronfeydd Pensiwn yw’r prif gorff sy’n cynrychioli diddordeb mudiad y pensiynau galwedigaethol. Mae llais blaenllaw gan y Gymdeithas ymysg sefydliadau sefydlu polisi.
LAPFF Bwriad Fforwm y Gronfa Pensiynau Llywodraeth Leol yw hybu buddion buddsoddi Cronfeydd Pensiwn Awdurdodau Lleol.

 

Diweddarwyd: 6/30/10 3:14 PM
Chwilio
Ffurflenni ar-lein
Cronfa Bensiynau Clwyd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NA Ymwadiad