- Talu eich Lwmp Swm CPLIL
- Eich Taliadau Pensiwn Misol
- Ymholiadau Treth
- Cynnydd yn eich Pensiwn
- Slipiau Cyflog
- Ffurflenni P60
- Newid manylion personol neu eich manylion cyfrif banc
- Eich Pensiwn CPLIL a byw dramor
- Lwfans Blynyddol
- Lwfans Oes
- Isafswm Pensiwn Gwarantedig
- Addasiadau
- Pensiwn ar ol Marwolaeth
- Rhannu Pensiwn yn dilyn Ysgariad neu Ddiddymiad Partneriaeth Sifil
- Pensiynwyr a Ailgyflogir
- Llyfrynnau Pensiynau
- Ffurflenni Pensiwn
- Apelio
- Buddion Ymddeol y Wladwriaeth
- Cwestiynau Cyffredin
- Cysylltau Defnyddiol
- Cysylltu gyda ni
Pensiynwyr a ailgyflogir
Mae gan yr holl awdurdodau gweinyddu pensiynau y disgresiwn i leihau neu atal eich pensiwn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol os ydych chi’n cael eich ailgyflogi mewn llywodraeth leol. Mae Cronfa Bensiynau Clwyd wedi peidio ag ‘atal’ yn y modd yma mwyach, sy’n golygu y gallwch chi fod yn derbyn eich pensiwn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a dechrau swydd newydd mewn llywodraeth leol heb i hynny effeithio ar eich pensiwn. Fodd bynnag, gellid effeithio ar bensiwn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol os gwnaethoch chi dderbyn blynyddoedd ychwanegol digolledu fel rhan o broses dileu swydd neu ymddeol er effeithlonrwydd. Os gwnaethoch chi dderbyn cynnydd yn eich blynyddoedd aelodaeth ar gyfer ymddeol ar sail gwaeledd iechyd, rhaid adolygu hynny hefyd. Mae’n rhaid i Gronfa Bensiynau Clwyd atal y pensiynau hyn yn ôl y gyfraith.
Os gwnaethoch chi dderbyn blynyddoedd ychwanegol digolledu neu eich bod wedi ymddeol ar sail gwaeledd iechyd a’ch bod bellach wedi eich cyflogi ym maes llywodraeth leol unwaith eto, cysylltwch gyda Chronfa Bensiynau Clwyd gyda manylion am eich cyflogaeth llywodraeth leol newydd. Fe wnawn ni gadarnhau yn ysgrifenedig a fydd eich pensiwn yn cael ei atal neu ei gwtogi ai peidio.


