- Talu eich Lwmp Swm CPLIL
- Eich Taliadau Pensiwn Misol
- Ymholiadau Treth
- Cynnydd yn eich Pensiwn
- Slipiau Cyflog
- Ffurflenni P60
- Newid manylion personol neu eich manylion cyfrif banc
- Eich Pensiwn CPLIL a byw dramor
- Lwfans Blynyddol
- Lwfans Oes
- Isafswm Pensiwn Gwarantedig
- Addasiadau
- Pensiwn ar ol Marwolaeth
- Rhannu Pensiwn yn dilyn Ysgariad neu Ddiddymiad Partneriaeth Sifil
- Pensiynwyr a Ailgyflogir
- Llyfrynnau Pensiynau
- Ffurflenni Pensiwn
- Apelio
- Buddion Ymddeol y Wladwriaeth
- Cwestiynau Cyffredin
- Cysylltau Defnyddiol
- Cysylltu gyda ni
Pensiwn ar ôl marwolaeth
Ar ôl i chi farw ar ôl ymddeol ar bensiwn, fydd eich buddion ddim yn cael eu talu wedyn. Rhaid i’ch priod, partner sifil, partner sy’n cydfyw, perthynas agosaf neu berson sy’n delio gyda’ch Stad adael i’r Adran Bensiynau wybod at unwaith beth oedd dyddiad eich marwolaeth, rhag bod gordaliad yn digwydd a bod angen adennill hwnnw wedyn.
Grant Marwolaeth
Gallai grant marwolaeth fod ar gael i’ch Stad neu eich buddiolwyr. Mae’r grant marwolaeth ar gael ddim ond:
- Os roeddech wedi gadael y CPLlL cyn 1 Ebrill 2008, bydd grant marwolaeth yn cael ei dalu os ydych wedi bod yn cael y pensiwn am lai na 5 mlynedd ac yn marw o dan 75 oed
- Os roeddech wedi gadael y CPLlL ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008, bydd grant marwolaeth yn cael ei dalu os ydych wedi bod yn cael y pensiwn am lai na 10 mlynedd ac yn marw cyn cyrraedd 75 oed
Felly os, er enghraifft, bydd pensiynwr yn ymddeol cyn 1 Ebrill 2008 ac yn cael pensiwn am 2 flynedd cyn marw, bydd y 3 mlynedd o bensiwn sy’n weddill yn cael ei dalu i’r Stad neu i’r Buddiolwyr fel grant marwolaeth unwaith ac am byth.
Os bydd pensiynwr yn ymddeol ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008 ac yn cael 7 mlynedd o bensiwn cyn marw, bydd y 3 mlynedd o bensiwn sy’n weddill yn cael ei dalu i’r Stad neu i’r Buddiolwyr fel grant marwolaeth unwaith ac am byth.
Ond os cafodd y pensiwn ei dalu am fwy na 5 neu 10 mlynedd (pa un bynnag sy’n berthnasol), neu os byddwch dros 75 oed yn marw, fydd dim grant marwolaeth yn cael ei dalu.
Mae’n bwysig eich bod chi’n cwblhau Ffurflen Mynegi Dymuniad Grant Marwolaeth (Agor ffenestr newydd 112KB) fel bod gan Gronfa Bensiynau Clwyd gofnod mewn ysgrifen o’ch dymuniadau. Mae gan Gronfa Bensiynau Clwyd yr hawl i ddewis pwy i dalu’r grant iddynt. Os na fyddwch yn cwblhau’r ffurflen hon, bydd y grant marwolaeth yn cael ei dalu i’ch Stad ac efallai bydd rhaid talu treth etifeddiaeth.
Pensiynau Dibynyddion
Yn ogystal â’r grant marwolaeth, mae darpariaethau ar gyfer pensiynau i bartneriaid sy’n dal yn fyw, fydd yn cael eu talu iddynt am weddill eu hoes. Os byddwch yn marw cyn eich partner, bydd Cronfa Bensiynau Clwyd yn talu pensiwn i unrhyw un o’r rhai a ganlyn:


