- Talu eich Lwmp Swm CPLIL
- Eich Taliadau Pensiwn Misol
- Ymholiadau Treth
- Cynnydd yn eich Pensiwn
- Slipiau Cyflog
- Ffurflenni P60
- Newid manylion personol neu eich manylion cyfrif banc
- Eich Pensiwn CPLIL a byw dramor
- Lwfans Blynyddol
- Lwfans Oes
- Isafswm Pensiwn Gwarantedig
- Addasiadau
- Pensiwn ar ol Marwolaeth
- Rhannu Pensiwn yn dilyn Ysgariad neu Ddiddymiad Partneriaeth Sifil
- Pensiynwyr a Ailgyflogir
- Llyfrynnau Pensiynau
- Ffurflenni Pensiwn
- Apelio
- Buddion Ymddeol y Wladwriaeth
- Cwestiynau Cyffredin
- Cysylltau Defnyddiol
- Cysylltu gyda ni
Lwfans Oes
Y Lwfans Oes yw’r terfyn uchaf sydd wedi’i osod ar eich ‘pot pensiwn’ y gallwch ei gael gyda rhyddhad o dreth (gostyngiad treth). Y terfyn ar gyfer 2011/2012 yw £1.8 miliwn. Ond mae’n annhebyg y byddwch yn mynd dros y terfyn Lwfans Gydol Oes oni bai fod gennych bensiwn arbennig o fawr oddi wrth bensiwn cynharach neu’ch pensiwn presennol.
Bydd Cronfa Bensiwn Clwyd yn cyfrifo faint o’r Lwfans Gydol Oes rydych wedi’i ddefnyddio gyda ni ar eich adeg ymddeol, ac yn gadael i chi wybod.
Pot Pensiwn
Mae unrhyw bensiynau rydych wedi bod yn eu cael ers Ebrill 2006 (yn cynnwys eich Cronfa Bensiwn Clwyd) yn cael ei gyfrifo drwy ddefnyddio’r fformiwla a ganlyn:
(Pensiwn blynyddol x 20) + lwmp swm + Cyfraniad Gwirfoddol Ychwanegol Mewnol (os oes gennych un)
Bydd unrhyw bensiwn rydych wedi’i gael cyn Ebrill 2006 yn cael ei gyfrifo drwy ddefnyddio’r fformiwla a ganlyn:
Pensiwn blynyddol x 25
Does dim angen i chi gynnwys pensiwn Gwladol a phensiynau Gweddw yn y cyfrifiadau hyn.


