- Talu eich Lwmp Swm CPLIL
- Eich Taliadau Pensiwn Misol
- Ymholiadau Treth
- Cynnydd yn eich Pensiwn
- Slipiau Cyflog
- Ffurflenni P60
- Newid manylion personol neu eich manylion cyfrif banc
- Eich Pensiwn CPLIL a byw dramor
- Lwfans Blynyddol
- Lwfans Oes
- Isafswm Pensiwn Gwarantedig
- Addasiadau
- Pensiwn ar ol Marwolaeth
- Rhannu Pensiwn yn dilyn Ysgariad neu Ddiddymiad Partneriaeth Sifil
- Pensiynwyr a Ailgyflogir
- Llyfrynnau Pensiynau
- Ffurflenni Pensiwn
- Apelio
- Buddion Ymddeol y Wladwriaeth
- Cwestiynau Cyffredin
- Cysylltau Defnyddiol
- Cysylltu gyda ni
Isafswm Pensiwn Gwarantedig
Mae’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn gynllun pensiwn wedi eithrio (“contracted out”). Os bydd aelodau wedi talu cyfraniadau pensiwn rhwng 6 Ebrill 1978 a 5 Ebrill 1997 ac wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyfradd llawn, wedi’u contractio allan, bydd ganddynt hawl i Bensiwn Isafswm Gwarantedig cyn belled ag y bo ganddynt hawl i Bensiwn y Wladwriaeth ar sail eu cyfraniadau eu hunain. Yr Isafswm Pensiwn Gwarantedig yw isafswm y pensiwn a fyddai wedi cael ei dalu gan y rhan ychwanegol o Gynllun y Wladwriaeth (SERPS, neu S2P fel y’i gelwir yn awr) petai cyfraniadau Yswiriant Gwladol ‘contractio i mewn’ wedi’u talu i Gynllun y Wladwriaeth yn hytrach na thalu cyfraniadau pensiwn i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
Mae Isafswm Pensiwn Gwarantedig yn dod yn daladwy pan fydd wch o oedran Pensiwn Gwladol, ac fe’i rhennir yn ddwy elfen, cyn 6 Ebrill 1988 ac ar ôl 6 Ebrill 1988. Nid yw’r Isafwm Pensiwn Gwarantedig yn swm ychwanegol i’r buddion Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, mae’n ffurfio rhan o’r buddion hynny. Mae pob cynnydd sy’n ddyledus ar yr Isafswm Pensiwn Gwarantedig cyn 6 Ebrill 1988 yn cael ei dalu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau fel rhan o fuddion y wladwriaeth. Mae Cronfa Bensiynau Clwyd yn talu cynnydd o hyd at uchafswm o 3% ar Isafswm Pensiwn Gwarantedig ar ôl 6 Ebrill 1988. Os yw’r cynnydd blynyddol yn uwch na 3% telir y balans gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Os oeddech chi’n aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol rhwng 6 Ebrill 1978 a 5 Ebrill 1997, a’ch bod yn nesáu at oedran ymddeol y wladwriaeth, bydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn ysgrifennu atoch chi i’ch hysbysu faint o Isafswm Pensiwn Gwarantedig a gewch.


