Alert Section

Cardiau Rheilffordd Rhatach yr Henoed


Mae’r Cyngor bellach yn rhan o gynllun ledled y wlad sy’n cael ei reoli gan Gymdeithas y Cwmnïau Trên (ATOC).  Mae hyn yn caniatáu pris rhatach o £24 am Gerdyn Rheilffordd yr Henoed National Rail i breswylwyr Sir y Fflint sy’n gymwys.  Mae hyn yn rhatach na phris Cerdyn Rheilffordd yr Henoed petaech yn ei brynu o orsaf drenau.

Mae Cerdyn Rheilffordd yr Henoed ar gael o’ch pen-blwydd yn 60.  Y tro cyntaf y prynwch Gerdyn Rheilffordd yr Henoed gan ATOC (hyd yn oed os ydych wedi prynu un drwy’r Cyngor o’r blaen), byddir yn gofyn ichi gadarnhau eich dyddiad geni.  I gael Cerdyn Rheilffordd yr Henoed am y pris gostyngol bydd rhaid ichi’n gyntaf gael côd unigryw gan y Cyngor.

Gofynnwch am god

Gan ddefnyddio’r côd unigryw, gellwch wedyn brynu eich Cerdyn Rheilffordd gostyngol am £24.00 gan ATOC naill ai drwy’u gwefan ar:www.senior-railcard.co.uk neu dros y ffôn ar 08448 714036 (codir 5c y munud am alwadau).

Bydd ATOC yn anfon Cerdyn Rheilffordd yr Henoed atoch naill ai drwy’r post dosbarth cyntaf neu drwy Bost Brys (mae hyn yn opsiwn y codir tâl amdano).

Sylwch os gwelwch yn dda na ellwch chi ddefnyddio’ch côd i brynu Cerdyn Rheilffordd yr Henoed yn uniongyrchol o’r orsaf drenau neu’r Cyngor.

Yn anffodus dan y system newydd, ni fydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw stoc o Gardiau Rheilffordd, felly ni fydd cwsmeriaid bellach yn gallu eu casglu’n bersonol o Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug.  Ymddiheurwn am unrhyw anhwylustod y gall hyn ei achosi.

Sut wyf yn adnewyddu fy nhocyn?

Mae cardiau rheilffordd yn ddilys am flwyddyn. Adnewyddwch eich cerdyn rheilffordd ar-lein neu ffoniwch ein Huned Drafnidiaeth ar 01352 702856.