Alert Section

Mesurau Newydd ar gyfer Rheoli Cŵn


Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Arfaethedig Rheoli Cŵn a Baw Cŵn 2023

Wedi cynnal ymgynghoriad yn 2017, mae Cyngor Sir y Fflint wedi cytuno i roi Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus ar waith er mwyn Rheoli Cŵn a Baw Cŵn, ar sail y gefnogaeth gref a gafwyd dros hynny.

Ar 20 Hydref 2017 daeth Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus i rym ledled Sir y Fflint i gyflwyno dull mwy trylwyr a chyson wrth ymdrin â phethau fel baw cŵn, cadw cŵn ar dennyn a gwahardd cŵn o fannau penodol.

Yn y bôn, mae’r gorchymyn hwn yn:

Gwahardd cŵn o:

  • fannau chwarae plant ag offer 
  • mannau chwarae caeau chwaraeon wedi’u marcio a mannau hamdden ffurfiol
  • tir ysgolion

Mynnu bod cŵn gael eu cadw ar dennyn:

  • Mewn mynwentydd

Mynnu bod perchnogion cŵn yn cael gwared â Baw Cŵn

  • Mae hyn yn berthnasol ar unrhyw dir sydd yn yr awyr agored ac y mae'r cyhoedd yn cael ei ddefnyddio

Mynnu bod perchnogion cŵn yn rhoi eu cŵn ar dennyn pan fo swyddog awdurdodedig yn gofyn iddynt wneud hynny

  • Mae hyn yn berthnasol ar dir cyhoeddus a phan ystyrir bod ci allan o reolaeth neu’n codi braw ar bobl

Mynnu bod gan berchnogion cŵn fagiau baw cŵn ac ati i godi’r baw os bydd swyddog awdurdodedig yn gofyn iddynt wneud hynny
*Caiff cwn eu hymarfer yn y mannau o amgylch caeau chwaraeon sydd wedi eu marcio*

Y gosb am dorri Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus

Os ceir rhywun yn euog o dorri’r gorchymyn byddant yn atebol yn sgil euogfarn ddiannod i dalu dirwy heb fod yn fwy na £1,000. Gall torri unrhyw un o’r amodau uchod, fodd bynnag, arwain at gael rhybudd cosb benodedig o £75 gan swyddog awdurdodedig.

Mae mapiau o'r ardaloedd y mae’r gorchymyn hwn yn effeithio arnynt i’w gweld isod, ynghyd â dogfen yn cynnwys atebion i gwestiynau cyffredin a’r Hysbysiad o’r Gorchymyn.

Map o safleoedd presenol (ffenestr newydd)

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml (PDF ffenestr newydd)   

Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cŵn a Baw Cŵn Cyngor Sir y Fflint 2017 (ffenestr newydd)

Mae Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn para am dair blynedd ac yna mae’n rhaid ei ymestyn, ac mae’n rhaid cynnal ymgynghoriad fel rhan o’r drefn honno. Estynnwyd y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus gwreiddiol yn 2020.  Daw’r amser i’w ymestyn eto yn 2023, a cheir manylion ymgynghoriad 2023 isod.

Cefndir Ymgynghori

Dydd Llun, 5 Mehefin 2023 - dydd Gwener 14 Gorffennaf 2023

Mae Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus yn un o nifer o bwerau a gyflwynwyd dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014. Fe’u lluniwyd i atal unigolion neu grwpiau rhag ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol mewn man cyhoeddus sy’n cael, neu'n debygol o gael, effaith andwyol ar ansawdd bywyd y bobl sydd yn yr ardal. Rhaid i’r ymddygiad fod yn afresymol ac yn barhaus yn ei natur.

Mae Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn para am dair blynedd ac fe ddônt i ben yn dilyn hynny, neu os yw’r Cyngor yn credu bod yr angen amdanynt yn parhau, gallant eu hadnewyddu. Fel rhan o’r broses adnewyddu honno, mae’n rhaid iddynt ymgynghori â’r partïon a fydd o bosibl yn cael eu heffeithio. Daw Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored Cyhoeddus Rheoli Cŵn cyfredol Sir y Fflint i ben ym mis Hydref 2023 ac o ganlyniad, mae Cyngor Sir y Fflint yn ymgynghori ar ymestyn y Gorchymyn am dair blynedd arall. 

Mae’r gwaharddiadau sydd ar waith ar hyn o bryd yn gofyn bod perchnogion cŵn yn:

  • Clirio baw ci yn syth o fannau cyhoeddus 
  • Rhoi eu cŵn ar dennyn pan fo swyddog awdurdodedig yn gofyn iddynt wneud hynny. Mae hyn yn berthnasol ar dir cyhoeddus a phan ystyrir bod ci allan o reolaeth neu’n achosi trallod.
  • Cadw cŵn ar dennyn mewn mynwentydd.
  • Sicrhau bod ganddynt fagiau baw cŵn ac ati i godi’r baw i fyny, a bydd gofyn iddynt brofi hynny ar gais swyddog awdurdodedig.  

Gwaherddir cŵn hefyd rhag cael mynediad i:

  • Ardaloedd chwarae plant caeedig
  • Ardaloedd chwarae meysydd chwaraeon wedi’u marcio
  • Ardal chwarae cyfleusterau chwaraeon neu hamdden benodol
  • Ar dir ysgolion

Byddai torri unrhyw un o’r amodau uchod yn arwain at roi Rhybudd Cosb Benodedig i’r person sy’n gyfrifol am y ci.

Yn ogystal â’r amodau uchod, mae Clwb Pysgota Cei Connah a’r Cylch wedi gofyn i Sir y Fflint ddiwygio’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored Cyhoeddus i wahardd cŵn o’r llwybr troed o amgylch y Rosie, Parc Gwepra, Cei Connah ac mae’r Cyngor hefyd wedi derbyn cais tebyg gan Gyngor Tref yr Wyddgrug i wahardd cŵn o Erddi Coffa yr Wyddgrug, Maes Bodlonfa, yr Wyddgrug.

Mae’r cais gan Glwb Pysgota Cei Connah a’r Cylch yn dilyn achosion o ddiffyg rheolaeth dros gŵn o amgylch y llyn, gyda chŵn yn neidio i’r llyn ac yn codi ofn ar y bywyd gwyllt.  Mae achosion hefyd wedi bod o berchnogion cŵn yn caniatáu i’w cŵn faeddu ar y safle heb ei lanhau.  Yn yr un modd, mae Cyngor Tref yr Wyddgrug wedi gwneud cais am waharddiad yng Ngerddi Coffa yr Wyddgrug yn sgil diffyg rheolaeth perchnogion dros gŵn, cŵn yn difetha gwlâu blodau a pherchnogion cŵn yn caniatáu i’w cŵn faeddu heb ei lanhau.

Mae’r ymgynghoriad yn gofyn a ydych yn cefnogi’r cynnig i wahardd cŵn naill ai ar un o’r safleoedd hyn neu ar y ddau safle, ac os nad ydych yn cefnogi’r cynnig i wahardd cŵn, a ydych yn cefnogi’r cynnig i fynnu bod cŵn yn cael eu cadw ar dennyn bob amser ar y safleoedd hyn. Os na fydd cefnogaeth ar gyfer y cynigion hyn, bydd yn parhau i fod yn ofynnol i berchnogion cŵn sicrhau eu bod yn: 

  • Clirio baw ci yn syth o’r lleoliadau hyn.
  • Rhoi eu cŵn ar dennyn pan fo swyddog awdurdodedig yn gofyn iddynt wneud hynny. Mae hyn yn berthnasol pan ystyrir bod ci allan o reolaeth neu’n achosi trallod.
  •  Sicrhau bod ganddynt fagiau baw cŵn ac ati i godi’r baw i fyny, a bydd gofyn iddynt brofi hynny ar gais swyddog awdurdodedig. 

Rydym yn gwerthfawrogi eich barn, felly treuliwch ychydig o amser yn darllen y ddogfen 'Cwestiynau Cyffredin' sydd ynghlwm, a Map o Safleoedd Posibl lle gallai'r gwaharddiadau gael eu gorfodi. Yna, llenwch ein harolwg ar-lein ar yr amodau Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus arfaethedig.