Alert Section

Strategaeth Toiledau Lleol


Dywedwch eich dweud ar Strategaeth Toiledau Lleol ddiwygiedig y Cyngor

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gwahodd preswylwyr ac ymwelwyr i rannu eu barn am ei Strategaeth Toiledau Lleol ddiwygiedig.  

Er nad yw darparu toiledau cyhoeddus yn ddyletswydd statudol, mae’r Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd cyfleusterau toiledau i drigolion, ymwelwyr a’r economi.

Wedi ei chyhoeddi ym mis Mai 2019 yn wreiddiol, nod Strategaeth Toiledau Lleol Sir y Fflint oedd gwerthuso a gwella ansawdd a nifer y toiledau cyhoeddus ledled Sir y Fflint, a darparu toiledau glân, diogel, hygyrch a chynaliadwy i drigolion ac ymwelwyr y Sir. 

Yn ddiweddar, cafodd y Strategaeth ei hadolygu yn seiliedig ar yr adborth a gafwyd yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn gynharach yr haf hwn, ac mae preswylwyr bellach yn cael eu gwahodd i rannu eu barn eto ar y fersiwn ddrafft diwygiedig o’r Strategaeth.    

Mae’r Strategaeth ddiwygiedig yn ymdrin ag agweddau amrywiol o gyfleusterau toiledau yn cynnwys y rhai i fabanod ac unigolion anabl sydd i’w canfod mewn adeiladau cyhoeddus, sefydliadau preifat a thoiledau cyhoeddus sy’n cael eu cynnal gan y Cyngor.  

Bydd safbwyntiau a barn a gesglir yn ystod yr ymgynghoriad hwn yn helpu i ddarparu’r Strategaeth derfynol ar gyfer cyfnod 2023 – 2025.  

Gellir gweld y Strategaeth ar-lein yn Strategaeth Toiledau Lleol Cyngor Sir y Fflint

Gellir e-bostio ymatebion i: StreetsceneAdmin@flintshire.gov.uk 

Neu fel arall postiwch nhw i: 

Cyngor Sir y Fflint, 
Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth, 
Depo Alltami, Ffordd yr Wyddgrug, 
Alltami, 
Sir y Fflint, 
CH7 6LG

Erbyn Dydd Gwener 22 Rhagfyr 2023 fan bellaf

At ddibenion y Strategaeth hon, mae’r term toiled yn cynnwys cyfleusterau newid i fabanod a chyfleusterau lleoedd newid ar gyfer pobl ag anableddau. Gellir lleoli’r rhain mewn adeiladau cyhoeddus fel llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol, adeiladau preifat fel caffis a siopau yn ogystal â thoiledau cyhoeddus a gynhelir gan y Cyngor.