Alert Section

Map Llwybrau Presennol Teithio Llesol


Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i gynllunio ar gyfer, gwella, a hyrwyddo llwybrau ar gyfer cerdded a beicio ar deithiau bob dydd. Er mwyn cwrdd y ddyletswydd, rhaid i awdurdodau lleol gyhoeddi Map Llwybrau Presennol sy’n dangos llwybrau sy’n addas ar gyfer cerdded a beicio ac sy’n cwrdd y safonau a nodir yng Nghanllawiau Dylunio Teithio Llesol Llywodraeth Cymru. 

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn 2015 ar Fapiau Llwybrau Presennol drafft Sir y Fflint, gwnaed newidiadau o ganlyniad i’r ymatebion a dderbyniwyd a chyflwynwyd y Map Llwybrau Presennol wedi ei ddiwygio i Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2017 er mwyn eu cymeradwyo.  

Bydd y Mapiau Llwybrau Presennol o ddefnydd i bobl sydd am gynllunio’u teithiau cerdded a beicio a bydd yn golygu y gallwn fesur cynnydd yn natblygiad rhwydweithiau cerdded a beicio Sir y Fflint,  fel mae llwybrau newydd yn cael eu creu a'u hychwanegu at y Map Llwybrau Presennol dros gyfnod o amser. 

Nid yw’r Mapiau Llwybrau Presennol yn dangos yr holl lwybrau cerdded a beicio, fodd bynnag mae’r llwybrau a ddangosir wedi cael eu harchwilio, sy'n dangos eu bod yn cwrdd y safonau a nodir yng Nghanllawiau Llywodraeth Cymru.  Mae 15 map sy’n cynnwys pob un o’r aneddiadau dynodedig yn Sir y Fflint sy’n rhan o Fab Llwybrau Presennol Sir y Fflint.

Bwcle - Brychdyn - Cei Connah - Parc Diwydiannol - Y Fflint - Gorsedd - Greenfield - Treffynnon - Yr Hob - Coed-Llai - Wyddgrug - Northop Hall - Penyffordd - Sandycroft - Shotton - Walwen

Os hoffech gopïau papur o Fapiau Llwybrau Presennol neu gopïau mewn fformat arall, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at active.travel@flintshire.gov.uk


Adroddiad blynyddol i Weinidogion Cymru

Yn unol ag A.7 (3) Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 cyflwynodd Cyngor Sir y Fflint ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2016/17 yn amlinellu’r costau a ysgwyddir wrth ddarparu llwybrau teithio llesol newydd a chyfleusterau perthnasol, a gwelliannau i lwybrau teithio llesol presennol a chyfleusterau perthnasol yn Sir y Fflint.

Adroddiad Teithio Actif 2016

Adroddiad Teithio Actif 2017

Adroddiad Teithio Actif 2018

Adroddiad Teithio Actif 2019

Mapiwr Rhyngweithiol Lle ar gyfer Llwybrau Teithio Llesol yng Nghymru