Alert Section

Crynodeb Ymgynghoriad Map Llwybrau Presennol Teithio Llesol


Lansiodd Cyngor Sir y Fflint ymgynghoriad statudol ar ei Fap Llwybrau Presennol Teithio Llesol drafft (ERM) yn Sioe Dinbych a Fflint ar 20 Awst 2015 a oedd yn gofyn am farn y cyhoedd, rhanddeiliaid, plant a phobl ifanc ar lwybrau cerdded a beicio teithio llesol a nodwyd ar y mapiau drafft. Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ar 25 Rhagfyr 2015.

Cefndir yr ymgynghoriad 

Fel rhan o Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 ‘y Ddeddf’ rhoddodd Lywodraeth Cymru ddyletswydd ar Awdurdodau Lleol i gynhyrchu mapiau o’r llwybrau teithio llesol presennol ac adnoddau perthnasol yn yr aneddiadau dynodedig o fewn eu hardal leol (y Map Llwybrau Presennol) ac i gyflwyno’r mapiau hyn er mwyn cael eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru erbyn 22 Ionawr 2016. Mae’r aneddiadau dynodedig o fewn Sir y Fflint yn cynnwys Bwcle, Brychdyn, Cei Connah, Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, y Fflint, Gorsedd, Treffynnon, Hope, Coed-llai, Yr Wyddgrug, Northop Hall, Penyffordd, Sandycroft, Shotton a Walwen. 

Wrth gynhyrchu’r Map Llwybrau Presennol cyntaf, canolbwyntiodd Cyngor Sir y Fflint ar lwybrau cerdded a beicio ger y priffyrdd sy’n darparu mynediad o ardaloedd preswyl mawr yn bennaf at ysgolion, safleoedd cyflogaeth, canolfannau trafnidiaeth, cyfleusterau iechyd, ac adnoddau siopa o fewn pob anheddiad dynodedig. 

Yn dilyn ymarfer mapio ac archwilio cyfleusterau cerdded a beicio presennol, mae cyfres o Fapiau Llwybrau Presennol Drafft wedi eu datblygu sy'n darlunio llwybrau cerdded a beicio o fewn y Sir sy'n cwrdd â'r canllawiau a nodwyd yn yr arweinlyfr statudol ac yn cael eu hystyried yn addas ar gyfer 'Teithiau Teithio Llesol'.  

Mae Adran 3.44 y Canllawiau Statudol ar gyfer cwrdd gofynion Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn nodi’r broses Ymgynghori y dylai Awdurdodau Lleol ei dilyn ac mae Adran 3.54 y Canllawiau yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru, wrth gymeradwyo’r Mapiau Llwybrau Presennol, yn ystyried os cynhaliwyd ymgynghori addas yn unol â’r Canllawiau. 

Sut gwnaethom ni ymgynghori

Datblygwyd tudalen we oedd yn amlinellu pwrpas yr ymgynghoriad a gwahoddwyd y cyhoedd i gwblhau arolwg arlein.  Darparwyd dolenni at fapiau rhyngweithiol yn dangos y Llwybrau Teithio Llesol arfaethedig ar gyfer pob anheddiad dynodedig mewn perthynas â’i gilydd. Gellid gwneud sylwadau ar lwybrau unigol ar yr arolwg arlein mewn blwch oedd yn dangos PDF o’r llwybr perthnasol.   Darparwyd dolen hefyd at dudalen wybodaeth Teithio Llesol Cyngor Sir y Fflint. <Ymgynghorwyd ag Aelodau, Cynghorau Tref a Chymuned, ysgolion a rhanddeiliaid allweddol drwy ebost.  Hyrwyddwyd yr ymgynghoriad hefyd drwy ddatganiadau i'r wasg, gwefan Cyngor Sir y Fflint, gwefan Cittaslow Cyngor Tref yr Wyddgrug, gwefan Sustrans, gweithgareddau cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyr Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc a rhoddwyd dolen i’r ymgynghoriad ar Grŵp Facebook y Bartneriaeth. 

Rhoddwyd cyflwyniad ar Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 a phroses ymgynghori Cyngor Sir y Fflint yn Fforwm Mynediad Lleol Sir y Fflint. 

Cynhaliodd swyddogion ymarferion grŵp ymgynghorol yng nghyfarfod Fforwm Ieuenctid Sir y Fflint, Ysgol Mynydd Isa, ac fe wnaethant fynychu sesiwn galw heibio yng Ngholeg Cambria, Glannau Dyfrdwy.  Hyrwyddwyd yr ymgynghoriad hefyd mewn nifer o ddigwyddiadau drwy gydol Wythnos Fusnes Sir y Fflint. 

Er mwyn hyrwyddo’r ymgynghoriad ac Agenda Teithio Llesol ymhellach darparwyd festiau llachar dwyieithog i nifer o blant ysgol yn cynnwys logo Teithio Llesol Sir y Fflint ar y blaen a’r geiriau “Rwy’n Deithiwr Llesol” ar gefn y Tabard. 

Cwestiynau’r arolwg

Roedd opsiwn aml-ddewis a chwestiwn agored yn gysylltiedig â phob llwybr Teithio Llesol a gynhwyswyd ar y mapiau ymgynghori, a thrwy hynny rhoddwyd cyfle i'r cyhoedd a'r rhanddeiliaid ddweud wrthym am eu gwybodaeth o’r llwybrau o safbwynt diogelwch, cyflwr y rhwydwaith ac os oeddynt yn beicio neu'n teithio ar hyd y llwybr.  Cawsant hefyd gyfle i awgrymu llwybrau teithio llesol ychwanegol ym mhob anheddiad dynodedig.

Gofynnom hefyd i’r cyhoedd ac i’r rhanddeiliaid, drwy gwestiwn aml ddewis a chwestiwn agored, pa welliannau yr oeddynt yn eu hystyried fel blaenoriaeth er mwyn annog mwy o deithiau teithio llesol a pha wybodaeth ychwanegol yr oeddynt yn ei ystyried a fyddai o gymorth i’r Awdurdod wrth glustnodi teithiau addas ar gyfer defnyddwyr anabl. 

Ymatebion i'r Ymgynghoriad

Derbyniwyd cymysgedd o ymatebion drwy'r arolwg arlein a negeseuon ebost gan adrannau mewnol, Grwpiau Defnyddwyr, Aelodau Lleol, Cynghorau Tref a’r cyhoedd. Cawsom adborth da hefyd drwy’r amrywiol ddigwyddiadau a fynychwyd drwy gydol y cyfnod ymgynghori.

O’r 89 Llwybr Teithio Llesol a gynhwyswyd ar y Map Llwybrau Presennol drafft, derbyniom adborth ar 21 o’r llwybrau hynny, oedd gan mwyaf yn adrodd am faterion fel diffyg biniau sbwriel a biniau baw cŵn, llystyfiant wedi gordyfu a sbwriel/graffiti.  Roedd rhai adroddiadau hefyd ynglŷn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, cyflymdra a maint y traffig, adnoddau croesi’r ffordd aneffeithiol a cherbydau wedi eu parcio’n achosi rhwystr i gerddwyr ar rhai llwybrau. Mae’r materion hyn wedi eu nodi ar y bas data Mapiwr Teithio Llesol er mwyn gweithredu arnynt. 

Derbyniom nifer o ymholiadau i gynnwys llwybrau ychwanegol ar yr Map Llwybrau Presennol. Ystyriwyd yr holl lwybrau, ac ychwanegwyd nifer sylweddol o’r llwybrau hyn a basiodd yr archwiliad at y Map Llwybrau Presennol terfynol a gyflwynwyd i Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2016. Roedd nifer o ymholiadau hefyd ynglŷn â llwybrau o aneddiadau gwledig y tu allan i’r aneddiadau dynodedig i Ysgolion a Chanol Trefi a fydd hefyd yn cael eu hystyried fel rhan o’r datblygiad Map Rhwydwaith Integredig.

Rhoddodd ymatebion yr arolwg syniad i ni o beth mae’r cyhoedd yn eu gweld fel blaenoriaethau mewn gwelliannau er mwyn hyrwyddo mwy o deithiau teithio lleol a restrir isod mewn trefn blaenoriaeth: 

  1. Mwy o lwybrau uniongyrchol 
  2. Cynyddu blaenoriaeth neu roi hawl tramwy i symudiadau cerdded a beicio dros symudiadau cerbyd. 
  3. Cyfuniad gwell o lwybrau cerdded a beicio 
  4. Llwybrau glân wedi’u cynnal yn dda
  5. Gwella ansawdd yr arwyneb 
  6. Gostwng goruchafiaeth a chyflymdra cerbydau modur 
  7. Gwella diogelwch cymdeithasol 
  8. Lleihau llanast stryd 
  9. Parhad llwybrau gyda'r lleiafswm o oedi 
  10. Adnoddau parcio beiciau diogel 
  11. Gwell arwyddion 

Derbyniom nifer o argymhellion hefyd am wneud llwybrau’n fwy cynhwysol.  Roedd yr awgrymiadau hyn yn amrywio o ddarparu llwybrau lletach, dileu fframiau A a giatiau mochyn, mwy o lwybrau ar wahân di-draffig, mwy o gyrbiau is, gostwng cyflymdra traffig a darparu adnoddau croesi mwy diogel.  Bydd yr holl awgrymiadau hyn yn cael eu hystyried yn natblygiad y Map Rhwydwaith Integredig.

Fel rhan o’r broses ymgynghori fe wnaethom ni fynychu cyfarfod Fforwm Ieuenctid Sir y Fflint ac Ysgol Mynydd Isa er mwyn cynnal ymarferion grŵp ar Deithio Llesol. Mae’r pdfs sydd wedi eu hatodi yn amlinellu crynodeb y digwyddiadau. 

Flintshire Youth Forum Consultation (PDF 200KB)

Mynydd Isa Junior School Consultation (PDF 400KB)

Darparodd y broses ymgynghori adborth gwych a fu o gymorth i siapio Map Llwybrau Presennol cyntaf Sir y Fflint ar gyfer Teithio Llesol.