Alert Section

Bathodyn Glas - Rhestr wirio: Nam dros dro


Os ydych chi'n byw yn Sir y Fflint, mae’r meini prawf cymhwyso ar gyfer Bathodyn Glas dros dro yn seiliedig ar yr ymgeisydd yn methu cerdded neu’n cael cryn anhawster yn cerdded AC anabledd dros dro a sylweddol sy’n debyg o bara am y 12 mis nesaf.  Mae enghreifftiau o’r cyflyrau hyn wedi eu rhestru isod:

  • Rwy’n gwella ar ôl toriad coes cymhleth, o bosibl yn cael ei reoli gyda sefydlogwyr allanol
  • Rwy’n derbyn therapi er mwyn gwella ar ôl strôc neu anaf i’r pen sydd wedi effeithio ar fy symudedd
  • Rwy’n derbyn therapi er mwyn gwella ar ôl trawma i’r asgwrn cefn ac yn methu symud fy nghoesau
  • Rwy’n derbyn ymyrraeth feddygol, er enghraifft triniaeth ar gyfer canser, sy’n effeithio ar fy symudedd
  • Mae gennyf nam gweithredol difrifol ar y coesau ac rwy’n aros i gael neu wedi cael cymal newydd (e.e. y glun, pen-glin ac ati unochrog neu’r ddwy ochr ac ati) 

Oes gennych chi anabledd cerdded dros dro ond sylweddol, sy’n debygol o barhau am y 12 mis nesaf? 

Oes

Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen gais dros dro a bydd angen dilysu'ch hanes blaenorol gyda'r gwasanaethau cymdeithasol neu iechyd.  Gallwch wneud cais drwy ffonio'r Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01352 701304 neu drwy ymweld â'ch swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu. Dylech ddod â'r dogfennau a ganlyn hefo chi:

Prawf o bwy ydych chi

Bydd angen i chi ddangos un o'r isod:

  • Tystysgrif geni / mabwysiaduTystysgrif priodas / ysgariad
  • Tystysgrif partneriaeth sifil / diddymu partneraeth sifil
  • Trwydded yrru ddilys
  • Pasbort dilys

Prawf o ble rydych yn byw

Gallwch brofi lle'r ydych yn bwy mewn gwahanol ffyrdd, sef:

  • Bil Treth Gyngor
  • Caniatáu i ni chwilio am gofnodion eich treth gyngor, y gofrestr etholiadol / cofnodion ysgol ar eich rhan

Llun i'w roi ar y Bathodyn Glas

Dylai hwn fod yn debyg i lun pasbort, a rhaid iddo fod yn un diweddar.  Dylai ddangos wyneb llawn y person sy'n gwneud y cais, er mwyn medru ei adnabod yn hawdd ac ni ddylai neb arall fod yn y ffotograff. Bydd y ffotograff yn cael ei osod ar gefn y bathodyn ac ni fydd i'w weld pan fydd wedi'i osod ar y cerbyd. Gall un o'n cynghorwyr cwsmeriaid dynnu'r llun yn un o ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu.

Tystiolaeth

Bydd angen tystiolaeth i benderfynu pa un a yw’r nam yn debygol o bara am gyfnod o 12 mis.  Bydd angen cyngor gan arbenigwyr a gellir darparu hyn trwy:

  • Dimau ail-allu’r ysbyty sy’n cyfrannu at ofal y claf
  • LlawfeddygGwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol sy’n cynorthwyo gydag adferiad cleifion (PARIS)
  • Therapyddion Galwedigaethol
  • Gweithwyr proffesiynol iechyd sy’n darparu gwasanaethau arbenigol e.e. ffisiotherapyddion, nyrsys macmillan ac ati a gellir talu am y rhain yn breifat, neu
  • Y Gwasanaeth Asesu Annibynnol a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru

Dylai’r dystiolaeth ddangos nad yw’r ymgeisydd yn gallu cerdded neu mae’n cael cryn anhawster yn cerdded a disgwylir i’r anawsterau hyn barhau am 12 mis neu fwy.  

Lle bynnag mae hynny’n bosibl mae’r cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i ddarparu tystiolaeth gefnogol, os na ddarperir tystiolaeth o’r fath, byddwn ni fel yr awdurdod lleol yn penderfynu pa un ai i atgyfeirio’r ymgeisydd i’r Gwasanaeth Asesu Annibynnol. 

NODER: Gall ymgeiswyr ddarparu copïau o ddogfennau neu gellir gwneud llungopïau o’r gwreiddiol.    

Nac Oes

Mae'n ddrwg gennyf, ond gan nad ydych chi'n bodloni unrhyw un o'r meini prawf, ni fyddai'n briodol bwrw ymlaen â'ch cais gan nad yw'n debygol y byddem yn rhoi bathodyn i chi. Os bydd eich amgylchiadau'n newid, neu os oes gennych ragor o wybodaeth i gefnogi'ch cais, cysylltwch â ni i drafod y mater.