Alert Section

Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu 2017


Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu 2017 #CefnogiMabwysiadu

Bydd Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu 2017 yn cael ei gynnal Hydref 16 - 22.

Fel yn y blynyddoedd blaenorol, mae'r angen i ddod o hyd i deuluoedd ar gyfer ein plant bregus yn parhau i fod wrth wraidd y digwyddiad a bydd y ffocws eleni ar frodyr a chwiorydd.Byddant hefyd yn ceisio cynnwys pob agwedd o fabwysiadu, er mwyn symleiddio ac egluro'r broses, ac i adlewyrchu heriau magu plant sydd wedi cael ei mabwysiadu.

Bydd Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn cefnogi'r Wythnos trwy gynnal sesiynau gwybodaeth / galw heibio ar draws Gogledd Cymru gan roi cyfle i bobl ddod i ddarganfod mwy am y broses i fabwysiadu. Nid oes angen apwyntiad, ac mae croeso i bobl ddod i siarad trwy eu sefyllfa bersonol eu hunain, yn llawn hyder os dymunant.

Hydref 19, byddwn yn Ganolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy 4yh–7yh 

Am fwy o wybodaeth ewch i'n gwefan www.northwalesadoption.gov.uk