Alert Section

Diogelu Oedolion


Mae Bwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru yn bartneriaeth rhwng Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor Sir, Heddlu Gogledd Cymru, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gwasanaethau gwirfoddol, cartrefi gofal ac asiantaethau gofal yw Pwyllgor Amddiffyn Oedolion Sir y Fflint.  Mae'r partneriaid yn cydweithio i sicrhau bod unrhyw adroddiadau am gam-drin oedolion bregus yn cael eu cymryd o ddifrif a bod y bobl iawn yn ymchwilio iddyn nhw.

Pwy sy'n Oedolion Bregus?

Pobl dros 18 oed sydd, oherwydd anabledd, oed neu salwch, yn methu ag amddiffyn eu hunain rhag niwed neu rhag cael eu hecsbloetio.

Beth yw Cam-drin?

Gall cam-drin fod yn unrhyw fath o niwed i oedolyn bregus, boed yn fwriadol ai peidio.  Gall cam-drin ddigwydd yn rhywle, gan gynnwys cartref y person neu ble mae'n cael gofal.  Mae nifer o ffyrdd i gam-drin, niweidio neu beri trallod i oedolyn bregus:

  • Cam-drin corfforol - gan gynnwys taro, slapio, gor-ddefnyddio neu gamddefnyddio meddyginiaeth, ffrwyno gormod ar rywun neu gyfyngu'n amhriodol arno
  • Cam-drin rhywiol - gan gynnwys trais ac ymosodiad rhywiol neu weithredoedd rhywiol nad oedd yr oedolyn bregus wedi/yn gallu cydsynio iddyn nhw a/neu y rhoddwyd pwysau arno i gydsynio
  • Cam-drin seicolegol - gan gynnwys bygwth ei niweidio neu ei adael ar ei ben ei hun, cywilyddio, cam-drin yn eiriol neu'n hiliol, ynysu neu dynnu gwasanaethau neu gymorth oddi wrtho
  • Cam-drin ariannol neu faterol - gan gynnwys dwyn, twyll, rhoi pwysau arno ynglyn ag ewyllysiau, eiddo neu etifeddiaeth, camddefnyddio budd-daliadau neu eu dwyn
  • Esgeulustod gan gynnwys methu â manteisio ar ofal neu wasanaethau meddygol, peidio â phoeni am beryglon, peidio â rhoi meddyginiaeth a roddwyd ar bresgripsiwn, bwyd gwael neu ddiffyg gwres
  • Cam-drin wedi'i ysgogi gan hiliaeth – gall fod yn unrhyw un o'r ffurfiau uchod
  • Cam-drin gan ddieithryn - mae'n bosib i oedolyn bregus gael ei gam-drin gan rywun nad yw'n ei adnabod, fel dieithryn, aelod o'r cyhoedd neu rywun sy'n targedu pobl fregus yn fwriadol er mwyn eu hecsbloetio

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n amau bod rhywun yn cael ei gam-drin?

Gallwch gysylltu â'r Gwasanaethau Cymdeithasol am gyngor, neu cysylltwch â'r Heddlu yn uniongyrchol os ydych yn meddwl bod trosedd wedi'i chyflawni.  Wedyn byddwn yn sicrhau bod y bobl iawn yn ymchwilio i'r cam-drin ac yn sicrhau bod yr oedolyn bregus yn ddiogel.

Rhifau Cyswllt

Gwasanaethau Cymdeithasol: 03000 858858 neu Heddlu Gogledd Cymru: 0845 6071001 (llinell Gymraeg); 0845 6071002 (llinell Saesneg).

Os ydych yn pryderu bod person oedrannus yn cael ei gam-drin, ffoniwch llinell gymorth Action on Elder Abuse ar 0808 808 8141 neu Age Connects Gogledd Ddwyrain Cymru ar 08450 549969.

Pan fydd y swyddfeydd ar gau, cysylltwch â'r Heddlu ar 0845 6071001.