Alert Section

Moderneiddio Ysgolion


Pam rydym yn adolygu darpariaeth ysgolion yn Sir y Fflint?

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gyfrifol am adolygu a moderneiddio'r holl ddarpariaeth ysgol er mwyn gwneud yn siŵr ein bod bod yn darparu'r cyfleoedd gorau posibl i ddysgwyr, fel y gallant gyflawni eu potensial llawn.

Darllen Mwy

Mae’r Cyngor angen sicrhau bod nifer digonol o leoedd mewn ysgolion a bod y rheini o’r math cywir ac yn y lleoliadau iawn. Nid yw hyn yn broses syml gan fod yna nifer fawr o leoedd gwag mewn ysgolion mewn rhai ardaloedd yn y Sir, tra bod diffyg lleoedd mewn ardaloedd eraill sydd methu cwrdd â’r galw lleol. Mewn ardaloedd eraill, mae poblogaethau ysgolion yn cael eu cynnal gan blant a phobl ifanc sy’n byw y tu allan i'r ardal leol a hynny thrwy ddewis rhieni. Mae’r angen i gynnal nifer fawr o adeiladau ysgol hen a seilwaith ategol yn anghynaliadwy. Felly, mae angen i ni adolygu ein darpariaeth ysgol:

  • i sicrhau bod ein darpariaeth addysg o ansawdd uchel ac yn gynaliadwy;
  • i wella ansawdd adeiladau a chyfleusterau ysgolion; ac i
  • ddarparu'r nifer cywir o leoedd mewn ysgolion, o'r math cywir, yn y lleoliadau iawn.

Mae'r gwaith yn gofyn i:

  • ragweld niferoedd disgyblion;
  • rheoli'r cyflenwad o leoedd mewn ysgolion;
  • rheoli'r galw drwy dderbyniadau a gweithdrefnau apelio;
  • sicrhau bod fframwaith yn ei le i sicrhau gwelliant drwy newid sefydliadol mewn ysgol;
  • bod yn barod i wneud penderfyniadau anodd; a
  • monitro a gwerthuso effaith penderfyniadau.

Rydym yn adolygu a moderneiddio'r ffordd y caiff addysg ei ddarparu drwy raglen dreigl o adolygiadau ardal. Rydym yn adolygu ysgolion ar fesul ardal, i wneud yn siŵr pan fyddwn yn gwneud newidiadau i drefniadaeth ysgolion, ein bod yn cymryd i ystyried unrhyw effaith bosibl ar ysgolion eraill cyfagos.

Pan fyddwn yn cynnal adolygiad ardal, byddwn bob amser yn ymgynghori â phlant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr sy'n gysylltiedig ag ysgolion yn yr ardal honno. Mae hyn er mwyn iddynt gael dweud eu dweud a bod yn rhan o benderfyniadau a wneir am ein hysgolion lleol. Gall canlyniadau adolygiad ardal gynnwys uno ysgolion sy'n bodoli eisoes trwy gyfuniad o ffederasiynau ysgolion, uno ar un safle a ffafrir neu adeiladu ysgolion ardal newydd a chau ysgolion sydd bellach ddim yn addas at y diben. Er mwyn cyflawni hynny bydd angen buddsoddiad cyfalaf sylweddol, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, i wella seilwaith ein hysgolion ac i sicrhau bod adeiladau’r ysgolion yn addas ac yn darparu etifeddiaeth effeithiol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Moderneiddio Ysgolion Strategaeth Diweddaraf 2014

Cyfredol Prosiectau Adeiladau Newydd

Adeilad Newydd Campws TreffynnonAdeiladu Canolfan Newydd Ôl-16

Dechreuodd gwaith adeiladu’r ysgolion cynradd ac uwchradd newydd yn Nhreffynnon fydd ar yr un safle, sef safle presennol yr Ysgol Uwchradd ym mis Ionawr 2015.

Mwy o Wybodaeth

Bydd y Ganolfan Addysg Ôl-16 newydd a ddatblygwyd ar y cyd gan Goleg Cambria, ysgolion lleol a Chyngor Sir y Fflint yn darparu cyfleusterau newydd a chwricwlwm ehangach o ddewis ar gyfer dysgwyr ôl-16 yn Sir y Fflint.

Mwy o Wybodaeth

Ymgynghoriadau Presennol

Adolygiad Ysgol Uwchradd Dewi SantAdolygiad o Ysgolion Uwchradd John Summers

Cynnig i newid ystod oedran Ysgol Uwchradd Dewi Sant, Saltney o 11-18 i 11-16.

Mwy o Wybodaeth

I newid ystod oedran Ysgol Uwchradd John Summers o 11-18 i 11-16 (o 31 Awst 2016) a chau Ysgol Uwchradd John Summers 11-16 (o 31 Awst 2017).

Mwy o Wybodaeth

Ymgynghoriadau ac Adolygiadau Hanesyddol

Bwcle, Mynydd Isa a'r Wyddgrug - Adolygiad ArdalTreffynnon - Adolygiad Ardal

Ymgynghori a ddaeth i ben.

Mwy o Wybodaeth

Ymgynghori a ddaeth i ben.

Mwy o Wybodaeth

Y Fflint - Adolygiad ArdalQueensferry, Shotton & Chei Connah - Adolygiad Ardal

Ymgynghori a ddaeth i ben.

Mwy o Wybodaeth

Ymgynghori a ddaeth i ben.

Mwy o Wybodaeth

Saltney - Adolygiad ArdalDogfennau Cefndir

Ymgynghori a ddaeth i ben.

Mwy o Wybodaeth

Dogfennau am y prosiect Moderneiddio Ysgolion cyfan.

Mwy o Wybodaeth

Ysgolion Hysbysiadau Statudol

Ymgynghoriadau Gau

Mwy o Wybodaeth