Alert Section

Genedigaethau Marw


Mae colli plentyn ar enedigaeth yn brofiad erchyll a gall cofrestru’r enedigaeth beri cryn ofid i’r rhieni. Rydym yn ceisio sicrhau bod y broses mor syml â phosibl ac mae’r wybodaeth a ganlyn yn ganllaw.  Yn Sir y Fflint, gallwn fynd i gartref y teulu os dymunir.  

Plentyn marw-anedig yw plentyn sy’n cael ei eni ar ôl beichiogrwydd o 24 wythnos, nad yw’n anadlu nac yn dangos unrhyw arwydd ei fod yn fyw.  Pan fydd plentyn yn farw-anedig bydd y fydwraig neu’r meddyg yn rhoi tystysgrif feddygol i’r rhiant / rhieni i’w defnyddio i gofrestru’r enedigaeth.  Mae hyn yn caniatáu i’r rheini gael cydnabyddiaeth swyddogol i’r plentyn.

Ble a phryd y bydd angen i mi gofrestru’r enedigaeth?

Fel arfer, caiff pob genedigaeth farw ei chofrestru cyn pen 42 diwrnod gyda Chofrestrydd yr ardal.  Os nad ydych yn byw yn yr ardal lle digwyddodd yr enedigaeth farw, gallwch gofrestru mewn unrhyw Swyddfa Gofrestru yng Nghymru neu Loegr drwy wneud ‘datganiad’.  Yn yr achos hwn, ni fydd y dystysgrif geni a’r ffurflen i’r trefnydd angladdau yn cael eu rhoi i chi ar unwaith ond cânt eu hanfon atoch drwy’r post, ymhen wythnos fel arfer.

Pwy all gofrestru genedigaeth?

Gall y naill riant neu’r llall gofrestru’r plentyn os oeddynt yn briod/mewn partneriaeth sifil pan aned y plentyn.  Os nad oeddynt yn briod/mewn partneriaeth sifil, mae angen i’r ddau riant fod yn bresennol er mwyn cynnwys gwybodaeth y ddau ar y dystysgrif geni.  Os dim ond mam y plentyn all fod yn bresennol, dim ond ei manylion hi gaiff eu cofnodi. Os nad yw’r tad / rhiant yn bresennol, ni fydd ei fanylion yn cael eu cofnodi.  Os na all y rhieni fod yn bresennol, gall pobl eraill gofrestru’r enedigaeth farw a bydd ein staff yn barod iawn i egluro’r gwasanaeth sydd ar gael.

Gwybodaeth i’w chynnwys ar y gofrestr a’r dystysgrif geni

Yn ogystal â’r dystysgrif feddygol a gewch gan y fydwraig neu’r meddyg, bydd angen i chi roi’r wybodaeth a ganlyn:

  • Man geni a dyddiad geni’r baban
  • Os yw’r rhieni’n dymuno enwi’r baban, enw a chyfenw’r baban
  • Rhyw’r baban
  • Enwau, cyfenwau, man geni a galwedigaeth y rhieni
  • Enw’r fam cyn priodi (os yw’n berthnasol).

Gofynnir i chi wirio’r wybodaeth a gofnodir yn ofalus iawn a llofnodi i gadarnhau ei bod yn gywir.

Mae’n bwysig bod y wybodaeth yn cael ei chofnodi’n gywir, gan fod unrhyw gamgymeriadau y ceir hyd iddynt ar ôl cofrestru achosi oedi, anhwylustod a gofid diangen.

Pa ddogfennau fydd yn cael eu rhoi i mi?

Tystysgrif sy'n cynnwys unrhyw enwau a roddwyd i’r plentyn, dyddiad yr enedigaeth farw, enw’r rhiant neu’r rhieni a lofnododd y gofrestr a’r ardal gofrestru lle digwyddodd yr enedigaeth farw.  Tystysgrif yr enedigaeth farw – union gopi o’r cofnod ar y gofrestr (rhaid talu ffi statudol o £11.00 wrth gofrestru). Tystysgrif claddu neu amlosgi am ddim – mae angen rhoi hon i’r trefnydd angladdau.  

Oes raid i mi dalu?

Nac oes. Mae’r gwasanaeth ar gael am ddim.  Mae ffi statudol o £11.00 am dystysgrif marw-enedigaeth.

Dim ond rhieni’r baban marw-anedig fydd yn cael y dystysgrif.