Alert Section

Genedigaethau


Mae genedigaeth plentyn yn ddigwyddiad mawr i deulu ac mae’n bwysig iawn cofrestru’r enedigaeth.  Nid oes raid talu i wneud hyn yng Nghymru a Lloegr ond mae’n rhaid cofrestru cyn pen 42 diwrnod. 

Beth y mae angen i mi ei wneud yn gyntaf?

Os ganwyd eich babi yn Sir y Fflint, bydd angen i chi gysylltu â’r Swyddfa Gofrestru drwy ffonio 01352 703333 i drefnu apwyntiad i gofrestru’r enedigaeth.   

Pwy all gofrestru’r enedigaeth?

Y naill riant neu’r llall cyn belled â’u bod wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil ar ddyddiad yr enedigaeth.  

Os nad oedd y rhieni wedi priodi mewn partneriaeth sifil ar ddyddiad yr enedigaeth, bydd yn rhaid i’r ddau ddod i gofrestru er mwyn cynnwys manyliony ddau riant ar y gofrestr a’r dystysgrif geni.

Os nad yw’r fam yn briod â thad y plentyn, ac mae’n cofrestru’r enedigaeth ar ei phen ei hun, ni chaiff manylion y tad eu cynnwys ar y gofrestr.  Bydd modd cofnodi manylion y tad ar y gofrestr yn ddiweddarach, o bosibl, a newid cyfenw’r plentyn i gyfenw’r tad os dyna’ch dymuniad. 

Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn gweld y Cofrestrydd?

Bydd y Cofrestrydd yn gofyn i chi gadarnhau’r wybodaeth a ganlyn:

  • Lle a dyddiad geni’r plentyn
  • Enw/au llawn y plentyn/plant
  • Enwau llawn y rhieni
  • Cyfeiriad a galwedigaeth y rhieni
  • Dyddiad a man geni’r rheini
  • Os yw’r rhieni wedi priodi neu’n bartneriaid sifil – dyddiad y briodas/partneriaeth sifil ac enw’r fam cyn priodi.

Enwi’ch plentyn

Cofnodir yr holl fanylion fel yr oeddynt ar ddiwrnod yr enedigaeth.  Gofynnir “Beth fydd enwau a chyfenw llawn eich plentyn pan fydd yn cael ei fagu?”

Ni fydd modd newid y cyfenw a nodir ar y dystysgrif geni oni bai bod y plentyn yn cael ei ailgofrestru neu ei fabwysiadu.  Os nad yw’r rhieni’n briod neu mewn partneriaeth sifil ar adeg yr enedigaeth ond yn priodi’i gilydd yn ddiweddarach, mae’n ofynnol iddynt, yn ôl y gyfraith, gyfreithloni’r plentyn drwy wneud cais i’w ailgofrestru.  Mae modd newid cyfenw’r plentyn neu ei adael fel y mae pan gaiff ei ailgofrestru.

Gofynnir i chi wirio’r wybodaeth a gofnodir yn ofalus.  Mae’n bwysig  cofnodi’r wybodaeth gywir gan y bydd yn anghyfleus iawn cywiro unrhyw gamgymeriadau y ceir hyd iddynt ar ôl cofrestru a bydd oedi cyn y cewch dystysgrif newydd.

Yna bydd y Cofrestrydd yn rhoi tystysgrif geni fer i chi sy’n nodi dyddiad, man geni ac enw llawn y plentyn.  Gallwch ddefnyddio’r dystysgrif hon i hawlio budd-dal plant ond nid i gael pasbortetc.   

Oes rhaid talu?

Nac oes.  Mae’r gwasanaeth cofrestru genedigaeth yn ddi-dâl ond rhaid talu ffi statudol o £11.00 am dystysgrif geni.

Oes angen rhagor o gopïau o’r dystysgrif geni arnaf?

Mae angen tystysgrif geni (sy’n dangos gwybodaeth am y plentyn a’r rhieni) i wneud cais am basbort i’ch plentyn a gallwch brynu copïau gan y Cofrestrydd pan fyddwch yn cofrestru.  Gallwch brynu copïau eraill yn ddiweddarach. 

Rwyf am gofrestru’r enedigaeth ond cafodd y plentyn ei eni’r tu allan i Sir y Fflint

Fydd rhaid i chi gysylltu a'r Swyddfa Gofestru yn yr ardal lle cafod eich babi ei eni.

Cyfrifoldeb rhiant

Gall tadau/rhieni di-briod gael cyfrifoldeb rhiant cydradd yn awtomatig dros eu plentyn os ydynt yn bresennol gyda’r fam pan gaiff yr enedigaeth ei chofrestru ac os cofnodir eu manylion ar y dystysgrif.  Os na all y tad/rhiant di-briod fod yn bresennol gyda’r fam yna gellir cofnodi’i fanylion drwy ddatganiad statudol yn cydnabod tadolaeth. Os oes unrhyw ansicrwydd, siaradwch â’r staff cofrestru pan fyddwch yn trefnu apwyntiad. 

Ailgofrestru ar ôl i’r rhieni briodi/uno mewn partneriaeth sifil

Os nad yw’r rheini yn briod/mewn partneriaeth sifil pan aned y plentyn, ond yn priodi’n ddiweddarach, mae’n ofynnol iddynt, yn ôl y gyfraith, gyfreithloni’r plentyn drwy wneud cais i’w ailgofrestru.  Mae o fudd i’ch plentyn i ddiweddaru’r cofnodion i adlewyrchu’r sefyllfa newydd.  Mae ffurflen ailgofrestru ar gael mewn unrhyw swyddfa Gofrestru. Ffoniwch 01352 703333 i gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu apwyntiad. 

Seremoni enwi plentyn

Cewch hefyd gopi o’n taflen “Seremoni Enwi Plentyn”.  Mae’n egluro sut y gall rhieni, ffrindiau a pherthnasau groesawu plentyn i’r teulu heb gael seremoni grefyddol.  I gael rhagor o fanylion, ffoniwch 01352 703333.