Alert Section

Systemau Draenio Cynaliadwy


Mae Cyngor Sir y Fflint yn profi llawer o alw am gyngor cyn ymgeisio mewn perthynas â chymeradwyo SDC sy’n wasanaeth yn ôl disgresiwn am ddim a gynigir gan y Cyngor ar hyn o bryd.

Oherwydd adnoddau cyfyngedig mae pob cais yn cael ei adolygu yn y drefn gronolegol y cawsant eu derbyn.

Rydym yn parhau i annog cysylltu’n fuan â’r SAB ond yn cydnabod efallai y bydd yna oedi cyn darparu adborth.

Bydd newid sylweddol i ofynion draenio yn cael effaith ar ddatblygiadau newydd o fis Ionawr 2019.  O 7 Ionawr 2019, bydd angen systemau draenio cynaliadwy ar gyfer pob datblygiad newydd o fwy nac 1 tŷ neu lle mae’r arwynebedd adeiladu yn 100m2 neu fwy i reoli dŵr wyneb ar y safle. Rhaid i systemau draenio fod wedi eu dylunio a’u hadeiladu yn unol â safonau gofynnol ar gyfer draenio cynaliadwy a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru. 

Rhaid i’r systemau hyn gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod lleol yn gweithredu yn ei rôl fel Corff Cymeradwyo SDCau (CCS) cyn y bydd gwaith adeiladu’n dechrau.

Bydd dyletswydd ar CCS i fabwysiadu systemau sy’n cydymffurfio, cyhyd a’i fod wedi ei adeiladu ac yn gweithredu yn unol â’r cynigion a gymeradwywyd, gan gynnwys unrhyw amodau cymeradwyaeth CCS.


Pa ddeddfwriaeth ydym ni’n cyfeirio ati?

Mae Atodlen 3 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr (DRhLlD) 2010 yn gorchymyn systemau draenio dŵr wyneb ar gyfer datblygiadau newydd i gydymffurfio â Safonau Cenedlaethol ar gyfer draenio cynaliadwy (SDCau). Gweler isod y dolenni i wefannau Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru am ragor o wybodaeth.
https://gov.wales/topics/environmentcountryside/epq/flooding/drainage/?skip=1&lang=cy

Mae Atodlen 3 DRhLlD 2010 hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol fel Corff Cymeradwyo SDCau i gymeradwyo, mabwysiadu a chynnal systemau sy’n cyd-fynd ag adran 17 yr Atodlen. I gael rhagor o wybodaeth am y ddeddfwriaeth, ewch i Atodlen 3 Deddf Llifogydd a Rheoli Dŵr 2010.

Beth yn union yw CCS?

Mae’r CCS yn swyddogaeth statudol a gynigir gan yr awdurdod lleol i sicrhau fod cynigion draenio ar gyfer pob datblygiad newydd o fwy nac 1 tŷ neu lle bod yr arwynebedd adeiladu yn 100m2 wedi eu dylunio a’u hadeiladu yn unol â’r safonau cenedlaethol ar gyfer draenio cynaliadwy a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru.
Sefydlwyd yr CCS i:

  • Gwerthuso a chymeradwyo ceisiadau draenio ar gyfer datblygiadau newydd lle mae goblygiadau draenio i’r gwaith adeiladau, a
  • Mabwysiadu a chynnal systemau draenio dŵr wyneb cynaliadwy yn unol ag Adran 17 Atodlen 3 (DRhLlD)
  • Mae hefyd gan y CCS bwerau arolygu a gorfodi
  • Ac mae’n defnyddio pwerau disgresiwn i gynnig cyngor cyn ymgeisio anstatudol

Beth mae’n ei olygu ar gyfer fy natblygiad?

Os ydych yn ddatblygwr, yn asiant neu'n unigolyn sy'n ceisio caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad, os yw’r datblygiad yn cynnwys mwy nac 1 tŷ neu arwynebedd adeiladu o 100m2 neu ragor mae hefyd rhaid i chi geisio cymeradwyaeth CCS ynghyd â chymeradwyaeth gynllunio. Ni fydd hawl gennych i ddechrau adeiladu nes rhoddir y 2 ganiatâd.

Ni fydd yn ofynnol i safleoedd a datblygiadau presennol sydd wedi sicrhau caniatâd cynllunio neu yr ystyrir eu bod wedi derbyn caniatâd (boed yn ddarostyngedig i amodau fel mater a gadwyd yn ôl) neu y derbyniwyd cais dilys ar ei gyfer ond nad yw wedi ei bennu erbyn 7 Ionawr 2019, wneud cais am gymeradwyaeth CCS. 

Serch hynny, bydd yn dal angen cymeradwyaeth CCS os rhoddwyd y caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig i amod o ran mater a gadwyd yn ôl ac nad yw'r cais i gymeradwyo'r mater a gadwyd yn ôl wedi ei wneud cyn 7 Ionawr 2010.

Mae yna rai eithriadau:

  • Mae gwaith adeiladu nad oes angen caniatâd cynllunio wedi ei eithrio o’r gofyniad am gymeradwyaeth CCS, nid yw’r eithriad yn berthnasol lle mae’r gwaith adeiladu ag arwynebedd o 100 m2 neu ragor
  • Boed angen caniatâd cynllunio ai peidio, eithriwyd gwaith adeiladu sy'n cynnwys adeiladu un annedd, neu fath arall o adeilad, sydd ag arwynebedd o lai na 100m2, o’r gofyniad i sicrhau cymeradwyaeth.

Sut ydw i’n ceisio cymeradwyaeth CCS?

Gwnewch ddewis perthnasol

  • Proses cyn ymgeisio CCS nad yw'n gysylltiedig â phroses cyn ymgeisio’r Awdurdod Cynllunio Lleol.
    Bydd y CCS yn cynnig gwasanaeth cyn ymgeisio am dâl i drafod gofynion draenio eich safle yn fanwl a beth sydd angen ei gyflwyno gyda’ch cais. Bydd y gwasanaeth hwn ar wahân i’r gwasanaeth cyn ymgeisio, felly bydd angen i chi ymgysylltu’n fuan â’r gwasanaethau perthnasol. Bydd hyn yn sicrhau bod y dyluniad SDCau arfaethedig yn addas yn unol â safonau cenedlaethol a chynllun safle digonol. Bydd y gwasanaeth hwn yn werthfawr i ddatblygwyr i helpu cyfyngu oedi a lleihau costau yn y tymor hir.
  • Proses cyn ymgeisio CCS wedi’i chyfuno â phroses cyn ymgeisio’r Awdurdod Cynllunio Lleol
    Bydd yr CCS yn cynnig gwasanaeth cyn ymgeisio y codir tâl amdano i drafod gofynion draenio eich safle yn fanwl a beth sydd angen ei gyflwyno gyda’ch cais. Bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei gynnig gyda’r cyngor cyn ymgeisio os byddwch yn dymuno ei dderbyn.  Bydd hyn yn sicrhau bod y dyluniad SDCau arfaethedig yn addas yn unol â safonau cenedlaethol a bod cynllun safle digonol. Bydd y gwasanaeth hwn yn werthfawr i ddatblygwyr i helpu cyfyngu oedi a lleihau costau yn y tymor hir.  

Sut ydw i’n cysylltu gyda fy CCS?

Y dyddiad cychwyn ar gyfer y gofyniad am gymeradwyaeth yw 7 Ionawr 2019 ac rydym ar hyn o bryd yn sefydlu ein gwasanaeth newydd i ymdrin â’ch ceisiadau a gwefan bwrpasol i gynnig gwybodaeth ychwanegol i chi pan fydd ar gael.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y broses newydd hon cysylltwch â ni SAB@Flintshire.gov.uk

Mae llawer iawn o wybodaeth ar gael ac mae’r tudalennau canlynol yn adnodd defnyddiol am ddim i gael rhagor o wybodaeth ar Ddraenio Cynaliadwy a’ch helpu chi i ddeall yr hyn y bydd angen i chi ei ystyried.

CIRIA 757: 'The SuDs Manual':