Alert Section

Strategaeth a Ffefrir (Ymgynghoriad Cyhoeddus Cyn Ei Archwilio gan y Cyhoedd)


Mae’r Cyngor wedi cynhyrchu dogfen Strategaeth a Ffefrir ar gyfer CDLl Sir y Fflint. Mae’r ddogfen Strategaeth a Ffefrir yn amlinellu gweledigaeth y Cynllun, materion ac amcanion, lefel twf dewisedig a strategaeth ofodol ddewisedig. Mae’n nodi dau Safle Strategol a Pholisïau Strategol.

Y Strategaeth a Ffefrir yw’r cyhoeddiad ffurfiol cyntaf yn y broses o baratoi CDLl ac mae’n dilyn ymlaen o ddau ymgynghoriad blaenorol a digwyddiadau ymgysylltu sef y dogfennau Negeseuon Allweddol ac Opsiynau Strategol. Bydd y Strategaeth a Ffefrir yn darparu fframwaith strategol i’r polisïau, cynigion a dyraniad datblygu mwy manwl yn y Cynllun Drafft Adneuo.

Gellir gweld prif ddogfen y Strategaeth a Ffefrir trwy ddefnyddio’r porth ymgynghori ar-lein. Bydd hyn hefyd yn caniatáu i sylwadau gael eu rhoi a’u cyflwyno'n electronig ynglŷn â’r  cwestiynau a osodir mewn adrannau a pholisïau allweddol yn y ddogfen. Er mwyn defnyddio’r drefn hon bydd angen cofrestru ar y system Objectives trwy ddefnyddio’r ddolen isod. Dyma ddull dewisedig y Cyngor ar gyfer cyflwyno sylwadau gan y bydd yn help i brosesu sylwadau yn effeithlon. Fodd bynnag, mae ffurflen editable isod i chi ei e-bostio neu ei bostio atom ni.

Strategaeth a Ffafrir - Ffurflen Sylwadau (PDF)

Porth Ymgynghori

Mae’r brif ddogfen Strategaeth a Ffefrir yn dod gydag amrywiaeth eang o ddogfennau eraill gan gynnwys:

Gellir gweld tystiolaeth arall yn yr adran 'Sylfaen Dogfennau a Thystiolaeth' ar y wefan neu trwy edrych ar adrannau penodol o'r wefan e.e. ymgynghoriadau blaenorol.

Bydd copïau o’r dogfennau* ar gael i’w harchwilio o ddydd Iau 09 Tachwedd tan ddydd Iau 21 Rhagfyr fel a ganlyn:

  • Ar wefan y Cyngor www.siryfflint.gov.uk/cdll
  • Yn y dderbynfa yn Ty Dewi Sant (Ewloe) yn ystod oriau agor arferol
  • Yn Swyddfeydd Sir y Fflint yn Cysylltu ym Mwcle, Cei Connah, Y Fflint, Treffynnon a’r Wyddgrug ac ym mhob llyfrgell, yn ystod oriau agor arferol
  • Mewn arddangosfa yn y brif dderbynfa yn Neuadd y Sir yn ystod y cyfnod ymgynghori o 6 wythnos
  • Yn yr arddangosfeydd canlynol yn ystod oriau agor arferol:
    • Llyfrgell Bwcle, Llyfrgell Glannau Dyfrdwy (Canolfan Hamdden), Llyfrgell Treffynnon a Llyfrgell Gymunedol Mancot rhwng dydd Iau 9 Tachwedd a dydd Mercher 29 Tachwedd
    • Llyfrgell Brychdyn, Llyfrgell y Fflint a Llyfrgell yr Wyddgrug rhwng dydd Iau 30 Tachwedd a dydd Iau 21 Rhagfyr

*Sylwer: dim ond y dogfennau Cynigion Cyn-Adneuo (h.y. Strategaeth a Ffefrir, yr Asesiad Effaith Integredig – Adroddiad Interim a’r Adroddiad Sgrinio Rheoliadau Cynefinoedd) a’r Asesiadau Safleoedd Posibl / Papur Cefndirol Safleoedd Amgen a fydd ar gael i’w harchwilio yn yr ymgynghoriad ac yn safleoedd yr arddangosfeydd. Mae’r holl ddogfennau ar gael ar-lein.

Rhaid i sylwadau am y dogfennau Cynigion Cyn Adneuo, yr Asesiad Safleoedd Posibl a gwybodaeth ategol arall, yn ogystal â chyflwyniadau safleoedd amgen, gael eu gwneud yn ysgrifenedig a dylai’r Cyngor eu derbyn erbyn 5pm dydd Iau 21 Rhagfyr 2017.  Rhaid i bob sylw nodi’n glir y pwnc, unrhyw newid a geisir a’r rhesymau. Gellir rhoi sylwadau trwy un o’r dulliau canlynol:

  • Defnyddio’r porth ymgynghori ar-lein (bydd angen i atebwyr gofrestru trwy ddefnyddio’r system Objective Keystone ar wefan y Cyngor)
  • Defnyddio’r ffurflen sylwadau
  • Defnyddio’r ffurflen cyflwyno safleoedd amgen
  • Trwy e-bostio developmentplans@flintshire.gov.uk
  • Trwy ysgrifennu at Andrew Farrow, Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd), Cyngor Sir Y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NF

Gellir cyfeirio unrhyw ymholiadau at linell gymorth y CDLl, 01352 703213, neu drwy ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost uchod.

Mae gofyn i’r Awdurdod ystyried sylwadau a wnaed yn unol â’r hysbysiad hwn yn unig. Ni fydd sylwadau a wneir yn ystod y cyfnod cyn-adneuo (Strategaeth a Ffefrir) yn cael eu hystyried gan yr Arolygydd a benodir i gynnal yr archwiliad annibynnol.

Y cam nesaf yn y broses o baratoi cynllun fydd y cyfnod ‘adneuo’ pan fydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ynghylch y CDLl adnau a sylwadau yn cael eu ceisio.