Alert Section

Tystysgrifau datblygiad cyfreithlon


Os hoffech sicrhau bod defnydd presennol adeilad yn gyfreithiol ar gyfer dibenion cynllunio neu nad oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer eich cynnig, gallwch gael tystysgrif o'r enw 'Tystysgrif Datblygiad Cyfreithiol' (TDC) (neu Tystysgrif o Ddefnydd Cyfreithiol).  Nid yw cael TDC yn orfodol ond ar adegau mae'n bosibl y bydd angen i chi gadarnhau bod y defnydd, y gweithrediad neu'r gweithgaredd a enwir ynddo yn gyfreithiol ar gyfer dibenion rheoli cynllunio. 

Mae dau fath o Dystysgrif Datblygiad Cyfreithiol y gallwch wneud cais amdani:

Tystysgrif Datblygiad Cyfreithiol - Datblygiad Arfaethedig (Adran 192)
Os hoffech wybod a fyddai datblygiad arfaethedig, gan gynnwys gwaith newydd neu newid defnydd tir, yn gyfreithiol pe bai'n cael ei wneud, gallwch wneud cais i'r Cyngor am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithiol Arfaethedig trwy lenwi ffurflen gais a'i dychwelyd gyda'r dogfennau cefnogol a'r ffi angenrheidiol.  Mae ceisiadau o’r fath yn destun y gweithdrefnau a’r ddeddfwriaeth sy’n rheoli ceisiadau cynllunio. Tra bod gennym 8 wythnos i benderfynu ceisiadau o’r fath byddwn yn ymdrechu i droi’r rhain rownd mewn cryn dipyn yn llai o amser na hyn.

Tystysgrif Datblygiad Cyfreithiol - Datblygiad Presennol (Adran 191)
Os nad ydych yn sicr p'un a yw'ch adeiladau, gweithrediadau, gweithgareddau neu ddefnydd tir presennol yn gyfreithiol, gallwch wneud cais i'r Cyngor am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithiol trwy lenwi ffurflen gais am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithiol Presennol a'i ddychwelyd gyda'r dogfennau cefnogol a'r ffi angenrheidiol .

Beth sydd angen i mi ei gyflwyno?
Mae gwybodaeth am wneud cais ar-lein, lawrlwytho ffurflenni cais, rhestr o ffioedd a beth i’w gynnwys yn eich cais i’w chael ar ein tudalen we Gwnewch gais am ganiatâd cynllunio.  Mae’r ffi am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon (LDC) yn cyfateb i 50% o’r ffi berthnasol am geisiadau cynllunio.