Alert Section

Cwynion am wrychoedd uchel


Datrys dadleuon
Os ydych yn pryderu am wrych uchel cyfagos, darllenwch y daflen ganlynol a gyhoeddir gan Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog - Over the Garden Hedge.  Mae'r daflen hon yn esbonio sut i ddatrys eich dadl ynglyn â gwrych heb ymwneud â Chyngor Sir y Fflint a rhaid rhoi cynnig ar y broses hon cyn cwyno i Gyngor Sir y Fflint.

Gwneud cwyn
Os ydych yn dymuno gwneud cwyn ffurfiol ar ôl darllen y daflen hon, lawrlwythwch, argraffwch a llenwch y ffurflen gwynion Gwrychoedd Uchel.  Mae nodiadau canllaw ar gael i wneud hyn.  Codir £320 i ymchwilio i gwyn am wrych uchel (caiff y ffi hon ei lleihau i £160 os yw'r sawl sy'n cwyno wedi'i gofrestru'n anabl, yn bensiynwr neu'n derbyn budd-dal gwladol).

Anfonwch eich ffurflen gwyno wedi'i llenwi ynghyd â ffi (sieciau'n daladwy i Gyngor Sir y Fflint) at y Prif Swyddog Gwasanaethau Cynllunio, Cyngor Sir y Fflint, County Hall, Yr Wyddgrug, CH7 6NB.  Neu fel arall, gallwch ei ddosbarthu â llaw i Tŷ Dewi Sant, Parc Dewi Sant, Ewlo.

Ffurflen Gwyno a Nodiadau Cyfarwyddyd Gwrychoedd Uchel

 

Cwestiynau a ofynnir yn aml

A oes gan bobl hawl cyffredinol i gael golau?
Nid oes gan unrhyw un hawl cyfreithiol cyffredinol i gael golau mewn gerddi, er hynny, gall hawddfraint i olau trwy ffenestri neu agoriadau eraill mewn eiddo fodoli ambell waith.  Os yw eich eiddo'n manteisio ar hawddfraint o olau sy'n cael ei effeithio, dylech gysylltu â'ch cyfreithiwr.

A allaf dorri canghennau sy'n bargodi fy eiddo?
Gallwch, ond dylech sicrhau eich bod yn gwybod yn union lle mae'ch ffin.  Yn aml, mae ffensys, gwrychoedd a ffosydd yn nodi ffin gyfreithiol rhwng eiddo ond efallai nad ydynt yn dilyn llinell amlwg ar y ddaear.  Os oes anghydfod rhyngoch chi a chymydog dylech gael cyngor cyfreithiol cyn torri unrhyw lystyfiant.  Mae'n arfer da trafod unrhyw waith arfaethedig gyda'ch cymydog cyn i chi fynd ati i'w gwblhau.

Dim ond y canghenau sy'n dod dros y ffin y gallwch eu torri a rhaid gwneud hynny mewn modd na fydd yn cyfaddawdu iechyd y coed neu lwyni.  Os yw'r goeden y bwriadwch ei thocio wedi'i hamddiffyn gan Orchymyn Cadw Coed neu Amod Cynllunio neu os yw mewn Ardal Gadwraeth bydd angen i chi gysylltu â'r Cyngor a chael caniatâd lle bo raid.

Gwybodaeth bellach
Caiff cwynion am wrychoedd uchel eu trin gan y gwasanaeth Gorfodi Cynllunio.
E-bost:  gorfodicynllunio@siryfflint.gov.uk
Ffoniwch:  01352 703258