Alert Section

Ymgynghoriad ar y CDLl i'w archwilio gan y cyhoedd


Oes gennych chi ddiddordeb yn sut y mae Sir y Fflint yn bwriadu defnyddio tir i'w ddatblygu yn y dyfodol?

Bydd cyfnod ymgynghori ar y CDLl I’w Archwilio Gan Y Cyhoedd ar gael o 30 Medi tan 5pm dydd Llun 11 Tachwedd 2019. Bydd yr ymgynghori yn rhoi cyfle i’r cyhoedd edrych ar y cynllun ac i wneud sylwadau. 

Cliciwch YMA ar gyfer Porth Ymgynghoriad y CDLl Adnau - Dogfennau Ategol

Yn ystod y cyfnod ymgynghori hwn ac yn ogystal â’r wybodaeth ar ein gwefan bydd y dogfennau CDLl ar gael i’w gweld yn swyddfeydd y Cyngor Sir yn Nhŷ Dewi Sant, Ewlo a Neuadd y Sir, yr Wyddgrug a Swyddfeydd Sir y Fflint yn Cysylltu. 

Bydd copïau o’r dogfennau CDLl, ynghyd â hysbysfwrdd ar gael i’w gweld gan y cyhoedd - yn rhad ac am ddim – yn y lleoliadau isod yn ystod oriau agor arferol:

  • Llyfrgell Brychdyn
  • Llyfrgell Bwcle
  • Llyfrgell Glannau Dyfrdwy
  • Pafiliwn Jade Jones y Fflint
  • Llyfrgell Treffynnon
  • Llyfrgell Gymunedol Mancot
  • Llyfrgell yr Wyddgrug 

Cynhelir sesiynau galw heibio yn y lleoliadau canlynol ar y dyddiadau ac amseroedd a nodir. Bydd swyddogion wrth law yn ystod y sesiynau hyn i’ch arwain a’ch cynghori ar sut i wneud sylwadau ar y dogfennau.

Venues
 Lleoliad Dyddiad ac Amser
Canolfan Gymunedol Brychdyn a Bretton, Brookes Avenue, Brychdyn 4pm - 8pm, Dydd Mawrth, 1 Hydref 2019 
Canolfan Ieuenctid a Chymunedol Bwcle (Bistre), Ffordd Nant Mawr 4pm - 8pm, Dydd Mercher, 2 Hydref 2019
Canolfan Gymunedol Parkfields Yr Wyddgrug, Ash Grove 4pm - 8pm, Dydd Iau, 3 Hydref 2019
Neuadd Bentref Mancot a Moor, Lôn Mancot 4pm - 8pm, Dydd Gwener, 4 Hydref 2019
Cei Connah, Adeilad y Cei, Fron Road 4pm - 8pm, Dydd Llun, 7 Hydref 2019
Canolfan Gymunedol Heulwen Close, Yr Hob - Caergwrle Abermorddu Cefn y Bedd 4pm - 8pm, Dydd Mawrth, 8 Hydref 2019
Canolfan Gymunedol Woodside Close, Ewlo 4pm - 8pm, Dydd Mercher, 9 Hydref 2019
Neuadd y Dref, Sgwâr y Farchnad, Y Fflint 4pm - 8pm, Dydd Iau, 10 Hydref 2019
Sefydliad Coffa Caerwys - South Street, Caerwys. Caerwys i ganolbwyntio ar gynigion mwynau 4pm - 8pm, Dydd Mawrth, 15 Hydref 2019
Canolfan Gymunedol New Brighton, Ffordd Moel Famau 5pm - 8pm, Dydd Gwener, 18 Hydref 2019

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Bydd gwybodaeth bellach ar y Cynllun I’w Archwilio Gan Y Cyhoedd a sut y gallwch gymryd rhan a rhoi eich sylwadau yma o 30 Medi 2019.