Alert Section

Gwirfoddoli


Mae miloedd o bobl ar draws Sir y Fflint yn rhoi o’u hamser hamdden i helpu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill.  Mae gennym lawer o gyfleoedd gwirfoddoli gwahanol ar gael yng Nghyngor Sir y Fflint.  Mae’r amrywiaeth o bethau y gall pobl eu gwneud i gefnogi eu cymunedau lleol yn ddi-ben draw bron. 

Ceir buddiannau personol gwych o fod yn wirfoddolwr.  Mae pobl sy’n gwirfoddoli yn cael synnwyr o fodlonrwydd eu bod wedi helpu i gefnogi o fewn y gymuned.  Mae rhai cyfleoedd gwirfoddoli yn galluogi pobl i fanteisio ar ddysgu sgiliau newydd, mynychu hyfforddiant gwahanol a gwella cyflogadwyedd yn y dyfodol.  

Cyfleoedd Presennol

Gwasanaeth Mentor Gwirfoddol

Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint - Recriwtio Panel Cymunedol


Aelodau Paneli Apeliadau Addysg Sir y Fflint

Mae Cyngor Sir y Fflint, Cyrff Llywodraethu ysgolion sefydledig a’r holl ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir yn Esgobaethau Wrecsam a Llanelwy – rhai Catholig a rhai’r Eglwys yng Nghymru – yn gwahodd ceisiadau am aelodau newydd i ymuno â’u Paneli Apeliadau Addysg Annibynnol.

Mae pob panel yn cynnwys tri aelod sy’n annibynnol o’r Awdurdod Lleol.  Tasg Panel yw clywed a phenderfynu ar apeliadau rhieni yn erbyn gwahardd disgybl, neu yn erbyn gwrthod derbyn eu plentyn i’w hysgol ddewisol.  Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i’r Panel gynnwys aelodau lleyg ac aelodau sydd â phrofiad mewn addysg.

Gwahoddir datganiadau o ddiddordeb gan bobl o bob cefndir gan fod y panel yn cynnwys aelodau lleyg a’r rhai sydd â phrofiad mewn addysg. Mae Aelod Lleyg yn unigolyn sydd heb brofiad personol o reoli neu ddarparu addysg mewn unrhyw ysgol (heb gynnwys profiad fel llywodraethwr ysgol neu mewn modd gwirfoddol arall).  Mae’n rhaid i baneli sy’n ymdrin ag Apeliadau Derbyn gael aelod sydd â phrofiad mewn addysg hefyd (rhywun sy’n gyfarwydd ag amodau addysg yn ardal yr awdurdod lleol neu sy’n rhiant i ddisgybl sydd wedi ei gofrestru mewn ysgol).  Mae’n rhaid i baneli sy’n ymdrin ag Apeliadau Gwahardd gynnwys aelod sy’n Llywodraethwr Ysgol ac ymarferydd Addysg. 

Mae’r gwaith yn ddi-dâl ond telir yr holl dreuliau teithio (os yw hynny’n berthnasol). Darperir hyfforddiant i holl aelodau’r paneli.

Os oes gennych ddiddordeb dod yn aelod o banel, cysylltwch â Chlercod y Paneli Apeliadau Addysg, Cyngor Sir y Fflint, Gwasanaethau Cyfreithiol, Neuadd y Sir, yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NR, am wybodaeth ychwanegol a ffurflen gais e-bostiwch: appeals.schools@flintshire.gov.uk

Beth sydd ynddo i chi?

Beth bynnag yw’ch rheswm dros wirfoddoli mae manteision lu i chi ac i’ch cymuned.  Gallwn eich cynorthwyo i gyrraedd eich nodau personol.

Mae gwirfoddoli’n darparu’r profiad a’r cymwysterau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, mae’n dangos eich bod yn ymroddedig a'ch bod yn gyflogadwy.

Byddwch yn derbyn hyfforddiant i’ch paratoi ar gyfer Gwirfoddoli ac i wneud y mwyaf o’ch gweithgareddau. 

Ni ddylech fod ar eich colled, ble fo’n bosib byddwn yn ad-dalu costau a gytunwyd arnynt megis teithio a pharcio ceir.  

Beth allwch chi ei ddisgwyl gennym ni?

  • Hyfforddiant ymsefydlu llawn i'ch rôl o fewn y gwasanaeth
  • Cefnogaeth ac adborth rheolaidd gan oruchwyliwr 
  • Disgrifiad ysgrifenedig o’ch gweithgareddau gwirfoddoli
  • Cydnabyddiaeth o rolau a chyfrifoldebau gwahanol gwirfoddolwyr a gweithwyr sy’n derbyn tâl
  • Cyfleoedd hyfforddiant parhaol. 

Beth yr ydym yn ei ddisgwyl gennych chi

Tra byddwch yn cymryd rhan yn y Gweithgareddau Gwirfoddoli, disgwylir i chi fod yn llysgennad i Gyngor Sir y Fflint.  Bydd eich gweithgareddau gwirfoddoli yn ychwanegu gwerth at y gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig i bobl Sir y Fflint. 

O safbwynt eich gweithgareddau gwirfoddoli rhaid i chi:

• Fod yn ddibynadwy, yn ymrwymedig ac yn broffesiynol
• Gweithredu yn gyfrinachol ac yn gynnil 
• Cofleidio cydraddoldeb a gwerthoedd amrywiaeth
• Bod â dyletswydd gofal i ddiogelu a hyrwyddo lles yr holl bobl y byddwch yn delio â hwy
• Cadw at yr holl ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch a diogelu data. 

Sut ydw i'n gwneud cais?

Os ydych yn ateb i hysbysebu penodol am wirfoddolwr, gallwch gwblhau’r Ffurflen Gais Wirfoddoli a’i bostio at y Rheolwr sy’n recriwtio.  Bydd cyfeiriad e-bost i’w ganfod ar yr hysbyseb. 

Os ydych am roi eich enw ymlaen ar gyfer unrhyw gyfleoedd gwirfoddoli yn gyffredinol, gallwch gofrestru gyda Chyngor Gwirfoddoli Lleol Sir y Fflint (FLVC) drwy anfon e-bost atynt info@flvc.org.uk neu ffonio 01352 744000.  Byddant wedyn yn cadw eich manylion ar ffeil ac yn cydweddu’ch sgiliau gydag unrhyw gyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael.