Alert Section

Dewisiadau o ran bedd


Caiff y rhan fwyaf o feddi eu prynu ar adeg claddedigaeth, trwy drefnwr angladdau fel arfer, a fydd yn prynu’r bedd ar eich rhan fel rhan o drefniadau’r angladd. 

Gellir prynu beddi flynyddoedd lawer cyn claddedigaeth hefyd a bydd pobl yn aml yn prynu lle ar gyfer bedd os ydynt yn awyddus i gael eu claddu wrth ymyl eu hanwyliaid neu mewn rhan arbennig o fynwent. (Sylwch nad yw’r cyfleuster hwn ar gael ym Mynwent Rhif 2 Penarlâg ar hyn o bryd). Os ydych yn berchen ar fedd dywedwch wrthym os byddwch yn newid cyfeiriad fel y gallwn ddiweddaru ein cofnodion.

Pan fyddwch yn prynu bedd, nid ydych yn prynu’r tir y mae’r bedd yn ei ddefnyddio; rydych yn talu mewn gwirionedd am brydlesu’r hawl cyfyngedig i gladdu am gyfnod penodol. Mae’r sawl sy’n prynu’r hawl cyfyngedig i gladdu yn cael ei adnabod fel y Grantî.  Yn ôl y gyfraith rhaid cael caniatâd ysgrifenedig y Grantî cyn y gellir claddu yn y bedd arbennig hwnnw, oni bai mai’r Grantî sydd i’w gladdu;  mae’r gyfraith yn rhagdybio bod gan y Grantî hawl i gael ei gladdu yn y bedd y mae’n berchen arno, ar yr amod fod y bedd yn addas ar gyfer claddedigaethau pellach. Y Cyngor sy’n berchen ar y tir ei hun o hyd. 

Mae Cyngor Sir y Fflint hefyd yn rhoi’r hawl i godi cofeb yn ogystal â’r hawl cyfyngedig i gladdu. Gall y Grantî reoli steil a geiriad unrhyw gofeb a osodir ar y bedd, yn amodol ar reoliadau cofebion y Cyngor ac ar dalu ffioedd y fynwent. Fel yn achos yr hawl cyfyngedig i gladdu, rhaid i’r Grantî roi ei ganiatâd ysgrifenedig cyn y gellir gosod unrhyw gofeb. Nid yw’r hawl i osod cofeb yn cario unrhyw ragdybiaeth gyfreithiol fod gan y Grantî hawl i gael ei goffau ar y gofeb, sy’n golygu bod rhaid trosglwyddo perchenogaeth y brydles i’r hawliau hyn yn gyfreithlon pan fydd y Grantî yn marw, cyn y gellir gwneud unrhyw waith pellach yn gysylltiedig â’r gofeb.

Nid oes rhaid i chi brynu’r hawl cyfyngedig i gladdedigaeth; gall oedolion neu blant gael eu claddu mewn bedd cyhoeddus neu gyffredin. Dylid cofio, fodd bynnag, y gall y Cyngor gladdu pobl nad ydynt yn perthyn i’w gilydd yn y beddi hyn. Ni ellir gosod cofeb ar fedd cyhoeddus. Caiff y bedd ei gynnal fel lawnt ac ni ddylid gosod unrhyw beth ar y fan lle mae’r bedd.  

Dewisiadau o ran bedd

Mae gwahanol fathau o feddi ar gael yn ein mynwentydd; nid yw pob math ar gael ym mhob mynwent, fodd bynnag. Rydym yn parchu anghenion a dewis unigol pob teulu ac os oes modd, byddwn yn ymdrechu i gyflawni eu dymuniadau. 

Beddi traddodiadol

Mae’r beddi hyn yn addas ar gyfer claddu dau oedolyn (neu dri oedolyn, mewn rhai mynwentydd). Gellir gosod un gofeb ar y bedd. Mae gennych hawl cyfyngedig i gladdu yno am 100 mlynedd. Gellir claddu gweddillion a amlosgwyd mewn bedd traddodiadol hefyd.

Beddi lawnt

Mae’r math yma o fedd yn addas ar gyfer claddu dau oedolyn, er ei bod yn bosib cael caniatâd i gladdu baban neu blentyn bach cyn y ddau oedolyn. Caniateir un gofeb ar y math yma o fedd. Bydd gweddill y bedd yn cael ei gynnal fel lawnt ac ni chaniateir plannu unrhyw blanhigion na gosod unrhyw eitemau eraill yn y fan yma. Cewch brynu’r hawl cyfyngedig i gladdu am 100 mlynedd. Gellir claddu gweddillion amlosgiad mewn bedd lawnt hefyd.

Beddi gweddillion amlosgiad

Mae beddi yn ein hardaloedd gweddillion amlosgiad yn addas ar gyfer claddu dwy set o weddillion amlosgiad. Gellir gosod cofeb fechan ar y trawst cofebau ar ben y bedd. Bydd gweddill y bedd yn cael ei gynnal fel lawnt. Cewch brynu’r hawl cyfyngedig i gladdu am gyfnod o 100 mlynedd. 

Ardaloedd claddu babanod / plant

Yn rhai o’n mynwentydd neilltuwyd ardal ar gyfer claddu babanod newydd-anedig, marw-anedig a  babanod hyd at fis oed a phlant hyd at 16 oed. Mae’r beddi hyn yn addas ar gyfer claddu un corff yn unig. Fel yn y gerddi ar gyfer gweddillion amlosgiad, caniateir un gofeb.

Rhagor o wybodaeth

Rhestr o ffioedd mynwentydd (costau beddi) (PDF 245 KB ffenestr newydd)

Rheolau a rheoliadau mynwentydd (PDF 327KB ffenestr newydd)

Os hoffech wybodaeth am y mathau o feddi sydd ar gael mewn mynwent arbennig neu os oes gennych gwestiwn am y gwahanol fathau o feddi cysylltwch â ni ac fe fyddwn yn falch o’ch helpu.