Alert Section

Codi corff marw


Gall codi neu ddatgladdu fod yn broses gymhleth a drud, a rhaid dilyn gweithdrefnau caeth iawn, wrth baratoi ac wrth fynd ati i godi / datgladdu’r corff ei hun. 

Mae’r union broses yn dibynnu ar y bedd y mae’r ymadawedig i’w godi ohono a’r bedd y bydd y corff yn cael ei ail-gladdu ynddo; bydd y tir y mae’r bedd arno naill ai’n gysegredig yn ôl defodau’r Eglwys yng Nghymru, neu wedi’i neilltuo ar gyfer claddu. 

Os yw’r ddau fedd ar dir cysegredig, yna bydd angen cynneddf gan yr Eglwys yng Nghymru yn rhoi caniatâd i godi’r corff. Os yw’r ddau fedd ar dir a neilltuwyd, yna rhaid gwneud cais i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder am drwydded i symud gweddillion dynol.

Os bydd corff yn cael ei godi o dir cysegredig i’w ail-gladdu ar dir a neilltuwyd, neu i’r gwrthwyneb, yna rhaid cael Cynneddf a Thrwydded gan y Swyddfa Gartref.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â swyddfa’r Gwasanaethau Profedigaeth