Alert Section

Twydd eithafol


Stormydd y gaeaf ac oerni eithafol

Gallwch warchod eich hunan, eich car a’ch cartref rhag nifer o beryglon tywydd y gaeaf thrwy gynllunio a meddwl ymlaen.

Ysgolion

Darganfod mwy am yr ysgolion sydd ynghau

Gyrru yn y gaeaf

Bob gaeaf rydym yn cynllunio pa ffyrdd fydd yn cael eu graenu pan ragwelir rhew ac eira. Mae’n syniad da cadw’r wybodaeth hon wrth law os ydych yn gyrru yn ystod misoedd y gaeaf.

  • Gyrrwch gyda gofal ychwanegol a pheidiwch fyth â thybio fod ffordd wedi ei graenu, hyd yn oed os oedd rhew neu eira wedi ei ragweld.
  • A yw’r daith yn un angenrheidiol? Os nad ydyw, peidiwch â theithio. 
  • Darganfyddwch a allwch gyrraedd pen eich taith gan ddefnyddio cludiant cyhoeddus. 
  • Gwyliwch ragolygon y tywydd cyn dechrau eich taith bob tro. 
  • Cynlluniwch eich siwrnai gan ddefnyddio’r rhwydwaith o brif ffyrdd. 
  • Caniatewch amser ychwanegol ar gyfer eich taith. 
  • Cychwynnwch injan eich car am ychydig o funudau cyn dechrau eich taith er mwyn helpu i glirio’r sgrin wynt. 
  • Sicrhewch fod gan eich cerbyd wrthrewydd (antifreeze) wedi ei ychwanegu i’w reiddiadur, a golchwr sgrin sy’n cynnwys gwrthrewydd wedi ei ychwanegu i’r botel olchi. 
  • Sicrhewch fod eich cerbyd mewn cyflwr gweithio da – golchwch y goleuadau a’r cyfeirwyr (indicators) yn aml. 
  • Gwrandewch ar eich sianel radio leol ar gyfer diweddariadau newyddion a theithio rheolaidd. 
  • Defnyddiwch oleuadau wedi eu gostwng yn ystod cyfnodau o law, niwl neu eira. 
  • Sicrhewch fod eich tanc tanwydd bob amser yn llawn.

Os ydych yn sownd mewn storm aeafol mewn ardal anghysbell, gallwch gymryd y camau canlynol:

  • Tynnwch oddi ar y ffordd. Trowch eich goleuadau rhybudd ymlaen ac arddangoswch faner cyfyngder o erial eich car neu yn y ffenestr. 
  • Arhoswch yn eich cerbyd gan fod achubwyr yn fwy tebygol o ddod o hyd ichi yno. Peidiwch â gadael eich car dim ond pan fo adeiladau gerllaw ble gallwch lochesu. Mae pellteroedd yn cael eu hystumio gan eira sy’n chwythu. Efallai fod adeilad yn edrych yn agos ond mewn gwirionedd yn rhy bell ichi gerdded ato mewn eira dwfn. 
  • Trowch yr injan a’r gwresogydd ymlaen am 10 munud bob awr er mwyn cadw’n gynnes. Pan fo’r injan yn rhedeg, agorwch ychydig ar y ffenestr er mwyn awyru a’ch gwarchod rhag gwenwyn carbon monocsid. Cliriwch eira o’r bibell wacau yn rheolaidd. 
  • Gwnewch ymarfer corff er mwyn cynnal gwres y corff, ond peidiwch â gor-ymdrechu. Cadwch yn glòs i deithwyr eraill a defnyddiwch eich cot fel blanced.
  • Ewch i gysgu bob yn ail, fel y gallwch weld y tîm achub. 
  • Yfwch digon er mwyn osgoi dadhydradiad. 
  • Peidiwch â gwastraffu pŵer y batri, ond yn y nos ac os yw achubwyr gerllaw, rhowch y golau tu mewn ymlaen fel y gall achubwyr eich gweld. 
  • Cariwch gannwyll a dull o’i gynnau. Gadewch y ffenestr ar agor ryw fymryn er mwyn cael awyr iach.

Pecyn argyfwng eich car

Sicrhewch fod gennych becyn argyfwng yn eich car, rhag ofn i chi dorri i lawr neu fynd yn sownd. Dylai’r pecyn gynnwys:

  • Cot gynnes, het a menig ychwanegol 
  • Esgidiau gaeaf addas 
  • Blanced neu fag cysgu 
  • Torsh a batris ychwanegol, neu dorsh y gallwch ei weindio. 
  • Rhaw, cadwyn neu raff dynnu 
  • Sgrafellwr ar gyfer y sgrin wynt, gwifrau cyswllt (Jump leads), ffôn symudol a batris 
  • Radio sy’n rhedeg ar fatris a batris ychwanegol, neu radio y gellwch ei weindio.

Gwnewch eich cartref yn ddiogel yn ystod y gaeaf

Paratowch i oroesi yn eich cartref ar eich pen eich hunan, heb help o’r tu allan, am o leiaf tri diwrnod. Casglwch becyn cyflenwad a sicrhewch eich bod yn cynnwys eitemau sy’n benodol i’r gaeaf, megis halen craig i doddi rhew a thywod i wella tyniant, rhaw eira neu gyfarpar arall i glirio eira. Cadwch stoc o fwyd a dŵr yfed ychwanegol. 

Os oes peryg i’ch tŷ gael ei ynysu, dyma ychydig o gyngor defnyddiol:

Sicrhewch fod gennych ddigon o danwydd gwresogi - efallai y bydd eich ffynhonnell danwydd arferol yn stopio. Hefyd dylech gael cyfarpar gwresogi brys ynghyd â digon o danwydd ar ei gyfer, rhag ofn y bydd y cyflenwad trydan yn stopio - megis tân nwy symudol, ffwrn llosgi coed, lle tân neu wresogydd paraffin. Cadwch bob gwresogydd o leiaf dair troedfedd i ffwrdd o wrthrychau fflamadwy. Sicrhewch fod digon o awyriad wrth ddefnyddio gwresogyddion paraffin er mwyn osgoi cael nwyon gwenwynig yn casglu, a dylech ail lenwi’r tanwydd y tu allan bob tro. Cadwch ddiffoddwyr tân wrth law a sicrhewch fod pawb yn y tŷ yn gwybod sut i’w defnyddio. Peidiwch byth â llosgi siarcol y tu mewn.

  • Sicrhewch fod eich waliau a’ch atigau wedi eu hinsiwleiddio cyn y gaeaf. 
  • Yn ystod storm, gwrandewch ar y sianel radio a theledu lleol am adroddiadau ar y tywydd a gwybodaeth brys. 
  • Bwytwch yn rheolaidd ac yfwch digon o ddŵr, ond osgowch gaffein ac alcohol. 
  • Gwisgwch ar gyfer y tymor gyda nifer o haenau o ddillad llac, ysgafn a chynnes yn hytrach nag un haen o ddilledyn trwm. Dylai’r haen allanol wrthyrru dŵr. Mae mits yn gynhesach na menig. Gwisgwch het bob amser - collir y rhan fwyaf o wres y corff o dop eich pen. 
  • Peidiwch â gorflino wrth rawio eira, gall achosi trawiad ar y galon. 
  • Gwyliwch am arwyddion o ewinrhew: colli teimlad, golwg gwyn neu lwyd mewn achosion eithafol. Os canfyddir y symptomau, ceisiwch help meddygol ar unwaith. 
  • Gwyliwch am arwyddion hypothermia: crynu’n ddi-baid, colli cof, dryswch, siarad yn aneglur, syrthni a blinder. Os canfyddir y symptomau, ewch a’r person i fan cynnes, tynnwch unrhyw ddillad gwlyb, cynheswch ganol y corff yn gyntaf, rhowch ddiod di-alcohol cynnes i’r dioddefwr os yw’n ymwybodol. Ceisiwch help meddygol cyn gynted ag y bo modd.

Tywydd poeth

Gall gwres eithafol achosi niwed. Mae’r rhan fwyaf o anhwylderau gwres yn digwydd pan fo’r dioddefwr wedi bod yn y gwres yn rhy hir, neu wedi gwneud gormod o’i oed a’i gyflwr corfforol. Mae’r henoed, plant ifanc ac unigolion gwael neu ordrwm yn fwy tebygol o gael eu heffeithio gan wres eithafol. Dyma’r hyn y gallwch ei wneud i wella’r effeithiau:

  • Arhoswch y tu mewn cymaint ag y gallwch 
  • Os nad oes gennych system aerdymheru, arhoswch ar y llawr isaf i ffwrdd o’r haul. 
  • Cofiwch nad yw gwyntyllau trydanol yn eich oeri, dim ond yn symud aer poeth o gwmpas. 
  • Bwytwch brydau cytbwys, ysgafn yn rheolaidd. Osgowch ddefnyddio tabledi halen oni bai y cyfarwyddwyd chi i wneud hynny gan eich doctor. 
  • Yfwch ddigon o ddŵr yn rheolaidd, hyd yn oed os nad ydych yn sychedig. (os oes gennych epilepsi neu glefyd y galon, yr arenau neu’r iau, neu ar ddiet sy’n cyfyngu hylifau neu gyda phroblem ataliad dŵr (fluid retention), dylech ymgynghori â’ch doctor cyn cynyddu faint yr ydych yn ei yfed) 
  • Cyfyngwch eich diodydd alcohol. Mae alcohol yn achosi dadhydradiad. 
  • Peidiwch fyth â gadael plant neu anifeiliaid anwes ar eu pen eu hunain mewn cerbydau caeedig. 
  • Gwisgwch ddillad llac sy’n gorchuddio cymaint o’ch croen ag sy’n bosib. 
  • Gwarchodwch eich wyneb a’ch pen thrwy wisgo het gydag ymyl llydan. 
  • Osgowch ormod o haul. Defnyddiwch eli haul, SPF 15 neu uwch. 
  • Osgowch waith ymdrechgar yn ystod cyfnod cynhesaf y diwrnod. Ceisiwch beidio â gweithio ar eich pen eich hunan mewn gwres tanbaid a chymerwch seibiant yn aml. 
  • Cofiwch ymweld yn aml â theulu a ffrindiau sy’n agored i niwed, megis yr henoed. 
  • Darllenwch am salwch a achosir gan wres - megis llosg haul, cramp gwres, blinder gwres a thrawiad gwres - yn eich llyfr cymorth cyntaf a byddwch yn barod i roi cymorth cyntaf.