Alert Section

Cynllunio rhag argyfwng


Pan ddigwydd argyfwng, fe wnawn ni’r canlynol:

  • Sefydlu canolfan reoli frys i reoli ein hymateb. 
  • Penodi swyddogion cyswllt i weithio efo’r gwasanaethau argyfwng ac asiantaethau eraill. 
  • Darparu cyngor gwyddonol, peirianyddol a thechnegol 
  • Trefnu gwasanaethau iechyd amgylcheddol a/neu reoli plâu 
  • Gwneud archwiliadau strwythurol 
  • Symud gweddillion 
  • Darparu cludiant ar gyfer y rheiny fydd wedi eu heffeithio 
  • Darparu gofal a chymorth i deuluoedd/unigolion sydd wedi eu heffeithio 
  • Sefydlu canolfannau gorffwys ar gyfer faciwîs a llety dros dro tymor hirach fel y bo’r angen. 
  • Cefnogi darpariaeth gwybodaeth gyhoeddus 
  • Sefydlu corffdai dros dro 
  • Sefydlu cronfeydd apêl 
  • Goruchwylio adferiad ac adsefydliad y gymuned

Ysgrifennu eich cynllun argyfwng eich hun

Ynghyd â’r gwasanaethau brys, mae gennym ni gynlluniau generig ysgrifenedig i ddelio ag argyfyngau a allai ddod i’ch rhan chi. Fe ddylech chi hefyd wneud hynny ar gyfer eich aelwyd eich hun. Darllenwch sut i greu cynllun ar gyfer eich cartref neu sut i lunio pecyn cyflenwadau brys am fwy o wybodaeth

Y wybodaeth ddiweddaraf yn ystod argyfwng

Gorsafoedd teledu a radio lleol

Gall gorsafoedd teledu a radio eich darparu â diweddariadau a gwybodaeth yn ystod argyfyngau. Isod mae rhestr o’n gorsafoedd radio lleol:

BBC Radio Wales 657AM, 882AM & 93-104FM 

Heart North West and Wales 103.4, 97.1 & 96.3 FM  

Chester Dee 106.3FM

BBC Radio Cymru 92.4 – 96.8 & 103.5- 104.9mhz FM

Radio City 96.7FM

BBC Radio Merseyside 95.8FM 1485AM

Coast 96.3 

Ein gwefan

Os gallwch gysylltu â’r rhyngrwyd, gwiriwch ein diweddariadau newyddion a’r adroddiadau ffocws i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Bydd y rhain yn rhoi’r manylion diweddaraf i chi fel yr ardaloedd fydd wedi eu heffeithio, rhifau cyswllt a chyngor ar beth i’w wneud.

Gallwch hefyd ddod o hyd i gyngor ar ddelio â llifogydd, tanau, tywydd eithafol, defnyddiau peryglus ac ymgilio ar ein  tudalennau argyfyngau.