Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Allai eich dyfodol chi fod yn y diwydiant Hamdden, Twristiaeth neu Letygarwch?

Published: 05/02/2020

Mae’r diwydiant hamdden, twristiaeth a lletygarwch yn cyflogi 3.2 miliwn o bobl yn y DU – a dyma’ch cyfle chi i fod yn un ohonynt! 

Dewch draw i Ganolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy ar 26 Chwefror i ddysgu mwy am swyddi lleol a chyfleoedd i hyfforddi ar gyfer y sector yma?   Cewch gyfle i gyfarfod ymgynghorwyr o Cymunedau am Waith, Canolfan Byd Gwaith, AURA a Chyngor Sir y Fflint – pobl a fydd wrth law gyda chefnogaeth a gwybodaeth i’ch helpu i ddarganfod pa gyfleoedd sydd ar gael i chi. 

Gallwch hefyd roi cynnig ar weithgareddau hwyliog am ddim, yn cynnwys: 

• Beicio dan do

• Hunan amddiffyn 

• Sglefrio Iâ 

• Rhoi cynnig ar y cae 3G 

Mae’r digwyddiad unigryw yn cael ei gynnal ddydd Mercher, 26 Chwefror rhwng 10am a 2pm yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, Queensferry, CH5 1SA.  Darperir lluniaeth a chinio am ddim.  

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Lynne Taylor yn y Ganolfan Byd Gwaith ar 07876 398686 neu Janiene Davies/Nia Parry yn Cymunedau am Waith ar 01352 704430. 

 

Leisure event W.JPG