Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Yn galw pob cyflogwr!

Published: 03/02/2020

Ydi eich sefydliad eisiau cymryd rhan yn Nigwyddiad Swyddi, Sgiliau a Hyfforddiant Blynyddol Sir y Fflint?

Mae Cymunedau am Waith Sir y Fflint, y Ganolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru yn galw ar gyflogwyr a darparwyr gwasanaethau lleol i gymryd rhan yn y digwyddiad sydd i’w gynnal yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy rhwng 10am a 2pm ddydd Iau, 23 Ebrill 2020.

Bydd yn gyfle gwych i hyrwyddo eich busnes a dod o hyd i weithwyr posibl.  Y llynedd, mynychodd 800 o bobl y digwyddiad, a cafodd ei gefnogi gan 20 o ddarparwyr a 72 cyflogwr, gyda dros 500 o swyddi gwag ar gael mewn amrywiaeth o sectorau.  

Hefyd, bydd cymorth ymarferol ar gael gan gynnwys ardal wirio CV a chymorth i ysgrifennu ffurflenni cais gan Gyrfa Cymru.  Bydd cynrychiolwyr addysg bellach ac uwch hefyd ar gael i drafod opsiynau hyfforddi a chyrsiau lleol. 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Paul Murphy yn y Ganolfan Byd Gwaith ar 07748 881647 neu Janiene Davies/Nia Parry yn Cymunedau am Waith ar 01352 704430.