Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwobr y Faner Werdd

Published: 16/08/2019

Bydd y Faner Werdd yn chwifio yn Nyffryn Maes Glas ac ym Mharc Gwepra i gydnabod eu cyfleusterau rhagorol a’u hymrwymiad i ddarparu mannau gwyrdd o ansawdd gwych am flwyddyn arall.

Mae Dyffryn Maes Glas a Pharc Gwepra yn llawn hanes a bywyd gwyllt.  Maen nhw’n leoedd gwerthfawr iawn yn ein cymuned ac mae’n fraint derbyn y Wobr hon ar gyfer 2019/20.  

Mae Parc Gwepra yn fan gwyrdd 160 erw yng nghanol Cei Connah ac mae’n lle unigryw gyda’i amrywiaeth o gynefinoedd a daeareg. Mae’r nodweddion sydd i’w darganfod yn y Parc yn cynnwys gerddi’r hen blas, llyn pysgota, Nant a Rhaeadr Gwepra a Chastell Ewlo.

Mae Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas yn Nhreffynnon ac mae’n cynnwys 70 erw o hanes diwydiannol.  Yn y gorffennol, roedd Dyffryn Maes Glas yn cyflogi cannoedd yn y ffatrïoedd copr a’r melinau cotwm ac mae bellach yn fan gwyrdd arbennig, yn gartref i nifer o henebion rhestredig ac yn noddfa i fywyd gwyllt.  Mae Parc Gwepra a Dyffryn Maes Glas yn ardaloedd hyfryd sy’n hygyrch i’r gymuned eu crwydro a’u mwynhau.  

Dywedodd Gwladys Harrison, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas: 

 “Mae’r staff a’r Bwrdd Ymddiriedolwyr yn falch iawn o Ddyffryn Maes Glas – un o drysorau Sir y Fflint – ac anrhydedd ydi derbyn y wobr yma.  Mae’n wobr werthfawr iawn ac mae’n arwydd o ansawdd ein mannau gwyrdd lleol.  Hoffem annog y gymuned i gyd i fynd allan i’r awyr agored a mwynhau ein llefydd naturiol dros yr haf.”

Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad;

 “Mae’n anrhydedd i ni ennill gwobr y Faner Werdd ar gyfer Dyffryn Maes Glas a Pharc Gwepra.  Mae parciau Sir y Fflint o ansawdd ardderchog ac maen nhw’n rhan werthfawr o’n cymuned.  Hoffwn ddiolch i’r holl wirfoddolwyr a staff sy’n gweithio’n galed i gynnal y safonau uchel yma a chaniatáu i ni chwifio’r ‘Faner Werdd’.  Mae amrywiaeth o fywyd gwyllt a nodweddion hanesyddol y parciau yma o ddiddordeb mawr i’r trigolion ac i dwristiaid ac maen nhw’n glod i Sir y Fflint.   Mi fyddwn i’n annog pawb i ddarganfod ein treftadaeth leol a mwynhau ein mannau gwyrdd naturiol yn ystod yr haf.”

Flintshire.JPG                                              Raising the Flag.JPG